Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

19 Meh 2017 - 11:59yb

Mae’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2017 wedi cael ei baratoi ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

8 Meh 2017 - 2:24yp

Yn yr asesiad o welliant blynyddol, ystyrir pa mor debygol yw hi y bydd awdurdod yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus.

6 Meh 2017 - 12:32yp

Mae'r papur trafod hwn yn esbonio pam bod trefn ein ffioedd bresennol yn rhy gymhleth ac mae'n ceisio barn ar ffyrdd o'i symleiddio.

26 Mai 2017 - 10:06yb

Mae'r Asesiad Strwythuredig yn archwilio trefniadau o fewn Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro sy'n cefnogi llywodraethu da a defnydd effeithlon, effeithiol a darbodus o adnoddau.

26 Mai 2017 - 8:00yb

Mae’r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pan fydd yn penderfynu ar newidiadau sylweddol i’w wasanaethau.

25 Mai 2017 - 12:01yb

Rydym wedi ystyried a yw trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chynllunio a’i darparu yn gosod sylfaen gadarn i’r rhaglen yn awr ac ar gyfer y dyfodol

9 Mai 2017 - 10:59yb

Mae gwaith asesu strwythuredig yn 2016 wedi adolygu unwaith eto’r trefniadau rheolaeth ariannol sydd gan yr Ymddiriedolaeth a’r cynnydd a wnaethpwyd i roi sylw i argymhellion y flwyddyn flaenorol.

9 Mai 2017 - 10:55yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o’r gwaith archwilio sydd wedi’i wneud ym Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ystod 2016.

19 Ebr 2017 - 11:19yb

Mae'r daflen hon yn tynnu sylw at ystyriaethau pwysicaf ar gyfer aelodau Pwyllgor Archwilio GIG.

3 Ebr 2017 - 10:47yb

Nod yr adolygiad hwn oedd ateb y cwestiwn canlynol: A yw partneriaid yn creu gwelliant cynaliadwy yng nghyswllt oedi wrth drosglwyddo gofal? Cynhaliom yr adolygiad rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2016.

Tudalennau