Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

31 Maw 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Ymddiriedolaeth GIG Felindre fel rhan o'r gwaith a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio ac Arolygu a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

24 Maw 2011 - 9:35yb

Ystyriwyd a yw ysbytai yng Nghymru yn darparu gwasanaethau arlwyo effeithlon ac effeithiol sy’n unol ag arfer da cydnabyddedig. Yn ein harchwiliad, ystyriwyd pob un o’r meysydd allweddol sy’n rhan o gynllunio, darparu a monitro gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai

24 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r canfyddiadau o'r gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y Bwrdd Iechyd) ddiwedd 2009 a thrwy gydol 2010. 

 

9 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf (y Bwrdd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o chwe mis terfynol cyrff rhagflaenol y Bwrdd hyd at 30 Medi 2009. Nodwyd y gwaith y sonnir amdano yn y Llythyr yn y Strategaethau Archwilio y cytunwyd arnynt ar gyfer y sefydliadau canlynol: Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol hwn (y Llythyr) at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau ar gyfer y cyfnod chwe mis olaf hyd at 30 Medi 2009 cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol newydd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau terfynol o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

28 Chwef 2011 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol (y Llythyr) hwn i aelodau Awdurdod Heddlu Gwent (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'r llythyr yn cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill. Nodwyd y gwaith y cyflwynir adroddiad arno yn y Llythyr hwn yn y Strategaeth Amlinellol y cytunwyd arni ar gyfer 2009-10. Anfonwyd y llythyr hwn gan John Herniman ar ran yr Archwilydd Penodedig

1 Chwef 2011 - 12:00yb

Ceir tystiolaeth glir bod gwelliannau angenrheidiol mewn gwasanaethau mamolaeth yn cael eu gwneud, ond mae angen cynnal y momentwm ac mae angen rhagor o waith i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â chynlluniau strategol cenedlaethol a lleol.

31 Ion 2011 - 8:59yb

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn cyfleu'r darlun hwnnw a phob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad i roi gwybod i chi faint o gynnydd y mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (yr Awdurdod) wedi'i wneud. Nid ydym wedi ymdrin â phob gwasanaeth y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar nifer fach o bethau, yn arbennig y pethau hynny y mae'r Awdurdod wedi dweud yw ei flaenoriaethau o ran gwella. 

 

31 Ion 2011 - 8:56yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

Tudalennau