Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

29 Tach 2011 - 9:35yb

Ers 2005, mae Swyddfa Archwilio Cymruhefyd wedi cyhoeddi adroddiadau o bwys ar nifer o bynciau sy'n gysylltiedig â grantiau cyhoeddus. Rydym yn dwyn ynghyd yr holl brofiad hwn ynyr adroddiad hwn i ateb y cwestiwn, ‘A gaiff grantiau'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu rheoli'n dda?’

16 Tach 2011 - 9:02yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o’r gwaith archwilio rwyf wedi’i gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2011. 

 

14 Hyd 2011 - 10:35yb

Yn yr adroddiad cyntaf o'r enw Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifwyd yr heriau ariannol a wynebai'r gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru a'r gwersi allweddol o'r gwaith a gyflawnwyd gan fy staff a chontractwyr. Diben yr ail adroddiad hwn yw rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa
gyfredol a helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau ariannol. Bwriadaf i'r adroddiad hwn fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i arweinwyr gwleidyddola gweinyddol wrth iddynt ddatblygu ymhellach eu cynlluniau ar gyfer llwyddo gyda llai.

23 Medi 2011 - 10:02yb

Mae'r Adroddiad Archwilio Blynyddol hwn i aelodau bwrdd y Bwrdd Iechyd yn nodi canfyddiadau allweddol gwaith archwilio a wnaed rhwng mis Hydref 2009 a mis Tachwedd 2010. 

19 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

6 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Ymddiriedolaeth GIG Felindre fel rhan o'r gwaith a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

6 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd 
Cyffredinol Cymru.

6 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

6 Medi 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Cwm Taf fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

6 Medi 2011 - 10:02yb

Contract meddygon ymgynghorol y GIG yw'r fframwaith cenedlaethol sy'n llywodraethu amodau gwaith a graddau cyflog meddygon ymgynghorol. Daeth y Diwygiad i Gontract Cenedlaethol y Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru i rym ar 1 Rhagfyr 2003, sef y newid mawr cyntaf i delerau ac amodau meddygon ymgynghorol ers 1948. Cyflwynodd y contract nifer o fuddiannau i feddygon ymgynghorol: graddfa cyflog newydd; trefniadau gwell ar gyfer taliad cydnabyddiaeth ar alw; trefniadau newydd ar gyfer dyfarniadau ymrwymiad clinigol a rhagoriaeth glinigol; ac ymrwymiad i wella trefniadau gweithio hyblyg.

Tudalennau