Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

17 Ion 2014 - 11:10yb

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn gyfrifol am roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Prif Gwnstabl o adnoddau, ac i sicrhau trefniadau gwarchod a llywodraethu priodol.

9 Ion 2014 - 9:00yb

Mae hwn, fy nhrydydd adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol, yn crynhoi canlyniadau gwaith archwilwyr yn 2012-13 yn y mathau canlynol o gyrff a archwilir yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol ac Cyd-bwyllgorau.

31 Rhag 2013 - 1:00yp

Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf. 

20 Rhag 2013 - 12:20yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur.

18 Rhag 2013 - 9:00yb

Yn dilyn adolygiad cychwynnol, penderfynodd yr Archwilydd Cyffredinol ymestyn cwmpas yr adolygiad i gwmpasu rôl Llywodraeth Cymru o ran rheoli a monitro’r grantiau i Fferm Bysgod Penmon, a chyhoeddi adroddiad a fyddai’n anelu at ateb y cwestiwn: A wnaeth Llywodraeth Cymru reoli buddsoddiad cyhoeddus yn Fferm Bysgod Penmon mewn ffordd a sicrhaodd fanteision y buddsoddiad?

17 Rhag 2013 - 11:39yb

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn cyfleu'r darlun hwnnw a phob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad i roi gwybod i chi am y cynnydd y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi'i wneud.

16 Rhag 2013 - 12:20yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur.

10 Rhag 2013 - 12:20yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur.

1 Rhag 2013 - 1:19yp

Mae gan wasanaethau microbioleg ran flaenllaw i'w chwarae o ran darparu gwasanaethau clinigol i gleifion yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae meddygon teulu a meddygon mewn ysbytai yn dibynnu ar wybodaeth gywir a dibynadwy gan wasanaethau microbioleg i'w helpu i ganfod a thrin heintiau a'u hatal rhag lledaenu.

1 Rhag 2013 - 12:20yp

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2013.

Tudalennau