Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

17 Tach 2017 - 8:00yb

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi'r negeseuon allweddol sy'n deillio o’m cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a'm cyfrifoldebau adrodd o dan y Cod Ymarfer Archwilio.

1 Tach 2017 - 12:11yp

Asesiad o’r cynnydd a wnaed o ran Cynllun Blynyddol 2017-18

27 Hyd 2017 - 9:30yb

Ym mis Mawrth 2016, argymhellodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol y dylai Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (y Ddeddf) gael ei diwygio er mwyn cadarnhau'r gofynion o ran codi ffioedd archwilio ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru.

27 Hyd 2017 - 9:00yb

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, mae Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru baratoi ar y cyd amcangyfrif o incwm a threuliau Swyddfa Archwilio Cymru.

27 Hyd 2017 - 9:00yb

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyno amcangyfrif blynyddol o’i hincwm a’i gwariant i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

17 Hyd 2017 - 12:01yb

Rydym wedi bod yn chwilio am dystiolaeth bod y trefniadau caffael presennol yng Nghymru’n helpu i roi gwerth am arian o ran gwario cyhoeddus, a’u bod yn addas i’r dyfodol.

13 Hyd 2017 - 1:00yp

Nodir y gwaith a gyflawnwyd ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan gynnwys gwaith y rheoleiddwyr perthnasol, yn yr adroddiad hwn.

11 Hyd 2017 - 4:18yp

Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw darparu mewnwelediad, rhannu arferion presennol ac ysgogi sgyrsiau a thrafodaethau pellach rhwng cynghorau a sefydliadau eraill.

31 Awst 2017 - 12:01yb

Rydyn ni wedi cynnal archwiliad er mwyn canfod a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi trefniadau effeithiol ar waith i reoli'r Rhaglen Cefnogi Pobl, a sicrhau ei bod yn cyflenwi wasanaethau o ansawdd uchel sydd wedi'u targedu'n briodol.

24 Awst 2017 - 8:00yb

Yn yr asesiad hwn, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2016, buom yn edrych ar agweddau ar drefniadau penderfynu yng nghyswllt amrywiaeth o gynigion sylweddol i newid gwasanaethau. 

Tudalennau