Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

23 Mai 2014 - 9:50yb

Mae’r cynllun cydraddoldeb strategol ar y cyd hwn yn nodi deg amcan penodol i’n helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol (h.y. sicrhau bod ein gwaith yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r angen i helpu i ddileu achosion o wahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da).

1 Mai 2014 - 2:47yp

Mae’r Cod yn rhagnodi’r ffordd y dylai archwiliadau a swyddogaethau eraill yr Archwilydd Cyffredinol gael eu gweithredu, ac mae’n corffori beth sy’n ymddangos i’r Archwilydd Cyffredinol fel arfer proffesiynol gorau.

24 Ebr 2014 - 12:00yb

Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy‟n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae‟n rhy gynnar i asesu‟r effaith gyffredinol.

1 Ebr 2014 - 6:17yp

Paratowyd y Cynllun Blynyddol hwn ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru dan adran 25(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

28 Maw 2014 - 10:35yb

Yn cynnwys graddfeydd ffioedd am archwilio cyfrifon 2013-14 awdurdodau unedol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, cronfeydd pensiwn a chynghorau tref a chymuned.

27 Maw 2014 - 12:00yb

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn.

26 Maw 2014 - 9:29yb

Mae’r papur briffio canlynol yn darparu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus â diweddariad ar raglen o astudiaethau gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol. 

25 Maw 2014 - 12:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio i ba raddau y mae Rhaglen y Strategaeth Leoli wedi cyflawni ei hamcanion mewn ffordd sy’n cynnig gwerth am arian.

20 Maw 2014 - 1:34yp

Rydyn ni wedi paratoi’r memorandwm hwn ar y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru ar gais Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

1 Maw 2014 - 5:01yp

Mae’r GIG yng Nghymru yn rhoi tua 75 miliwn o bresgripsiynau gofal sylfaenol bob blwyddyn am feddyginiaeth sy’n costio tua £600 miliwn i gyd. Mae’r swm a wariwyd y pen o’r boblogaeth ar gyffuriau yn 2012 (£196) yn uwch nag yn Lloegr (£169) a’r Alban (£168). Hefyd, rhoddwyd nifer fwy o eitemau ar bresgripsiwn yng Nghymru yn 2012 nag yn yr un wlad arall yn y Deyrnas Unedig, sef 24 eitem y pen o’u cymharu â 15 yn 2002.

Tudalennau