Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

25 Chwef 2016 - 9:00yb

Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. Edrychodd yr adroddiad ar sefydlu, llywodraethiant, arolygu a gweithrediad cynnar y Gronfa gan ystyried a wnaeth Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru sefydlu’r Gronfa ac arolygu ei gweithrediadau cychwynnol (yn cynnwys y tri buddsoddiad cyntaf) yn effeithiol.

12 Chwef 2016 - 1:42yp

Rhydd yr adroddiad hwn grynodeb sy'n deillio o ganfyddiadau y gwaith archwilio a gwblhawyd yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystod 2015.

11 Chwef 2016 - 12:01yb

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad i’r dulliau a ddefnyddir yn genedlaethol ac yn lleol i reoli effaith ymarfer preifat ar ddarpariaeth y GIG.

4 Chwef 2016 - 12:01yb

Cwmpas cyffredinol ein gwaith oedd canfod a oes gan CNC drefniadau llywodraethu ar waith sy’n helpu i gyflawni ei brif flaenoriaethau a chanlyniadau, neu a yw’n datblygu trefniadau o’r fath.

28 Ion 2016 - 10:38yb

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau arolwg o arweinwyr gwasanaetha cyhoeddus a wnaed fel rhan o’n hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015.

14 Ion 2016 - 12:01yb

Dyma'r pumed adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Mae’n crynhoi canlyniadau'r gwaith ar gyfer 2014-15 yn y mathau canlynol o gyrff llywodraeth leol (cyrff a archwilir) yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol, Cydbwyllgorau & Awdurdodau porthladdoedd.

30 Rhag 2015 - 10:06yb

Yn yr asesiad strwythuredig 2015 aseswyd cadernid trefniadau rheoli ariannol y Bwrdd Iechyd, digonolrwydd ei drefniadau llywodraethu a’r rheolaeth ar ffactorau galluogi allweddol sy’n cefnogi defnydd effeithiol o adnoddau.

22 Rhag 2015 - 10:22yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi cghanfyddiadau o’r gwaith archwilio a wnaed ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystod 2015. 

22 Rhag 2015 - 9:51yb

Roedd yr archwiliadau hyn yn ymwneud â’r wybodaeth am feddyginiaeth a ddarperir gan feddygon teulu i gefnogi derbyniadau, adolygiadau meddyginiaeth y mae cleifion yn eu derbyn yn ystod eu harhosiad, y gefnogaeth a roddir i gleifion wrth gymryd eu meddyginiaethau, a’r trefniadau i sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu rheoli’n dda ar ôl i gleifion adael yr ysbyty.

17 Rhag 2015 - 11:40yb

Ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi’r adroddiad hwn er mwyn rhoi darlun o ymateb gwasanaethau cyhoeddus datganoledig i’r heriau y maent wedi bod yn eu hwynebu a’u cynlluniau i fynd i’r afael â’r pwysau yn y dyfodol.

Tudalennau