Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru.

1 Awst 2013 - 4:41yp

Rhagnodi cyffuriau yw'r math mwyaf cyffredin o driniaeth ym maes gofal sylfaenol ac mae GIG Cymru yn darparu tua 75 miliwn o bresgripsiynau ym maes gofal sylfaenol bob blwyddyn sy'n cyfateb i tua £600 miliwn mewn costau meddyginiaeth. Mae'r swm blynyddol a gaiff ei wario ym maes gofal sylfaenol fesul pen o'r boblogaeth (£196) yn uwch nag yn Lloegr (£169) a'r Alban (£168). Hefyd, yn 2012, rhagnodwyd 24 o eitemau am bob unigolyn yng Nghymru, sy'n uwch na gweddill y DU ac mae hyn wedi cynyddu o 15 yn 2002.

16 Gorff 2013 - 10:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad manwl o’r sefyllfa ariannol o fewn cyrff y GIG yn 2012-13. Mae hefyd yn ystyried perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny y mae’r Adran wedi’u nodi fel blaenoriaeth. Wedyn, aiff yr adroddiad ati i ystyried yr heriau ariannol a gwasanaeth byrdymor, tymor canolig a hirdymor y mae GIG Cymru yn eu hwynebu yn y dyfodol.

13 Meh 2013 - 10:35yb

Aethom ati i geisio ateb y cwestiwn: ‘A yw’r Fframwaith ar gyfer gweithredu GIP yn effeithiol o ran sicrhau bod unigolion yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyson?’

7 Mai 2013 - 9:59yb

Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r ffordd y mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (yr Awdurdod) yn darparu ac yn gwerthuso gwasanaethau mewn perthynas â 2011-12, a’r ffordd y mae’n cynllunio gwelliant ar gyfer 2012-13. 

 

12 Ebr 2013 - 9:56yb

Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

2 Ebr 2013 - 10:21yb

Mae’r ddogfen ganlynol yn amlinellu Strategaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2013-2016. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ailymweld â’i strategaeth bob tair blynedd, ac wedi gwneud hynny ers cychwyn yn 2005

1 Ebr 2013 - 10:02yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o’r gwaith archwilio a wnaed gennyf yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn ystod 2012. 

 

28 Maw 2013 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o'r gwaith archwilio a wnaed gennyf ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2012.

Tudalennau