Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

17 Ion 2013 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried p’un a yw CCC, lle y bo’n briodol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi gweithredu argymhellion archwiliadau blaenorol yn effeithiol er mwyn sicrhau’r manteision hirdymor mwyaf posibl o ran coedwigaeth. Er mwyn amlinellu cynnydd CCC mewn modd ystyrlon, rydym wedi grwpio argymhellion fesul thema, megis caffael, rheoli risg a rheoli grantiau. 

 

21 Rhag 2012 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon i’w defnyddio’n fewnol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys fel rhan o waith a wnaed yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a’r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

20 Rhag 2012 - 9:35yb

Ceisiodd ein hadolygiadau ateb y cwestiwn: “A yw trefniadau cynghorau ar gyfer datblygu, defnyddio a chefnogi technoleg yn debygol o sicrhau gwelliant parhaus?” Gwnaethom gynnal yr adolygiadau hyn yng nghyd-destun strategol nod Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymagweddau cyffredin tuag at TGCh.

6 Rhag 2012 - 9:35yb

Ystyriodd ein hastudiaeth p’un a yw Deddf Argyfyngau Sifi l Posibl 2004 wedi arwain at drefniadau effeithiol ar gyfer cynllunio at argyfwng a chydnerthedd mewn cymunedau sy’n diogelu’r cyhoedd yng Nghymru yn ddigonol.

4 Rhag 2012 - 9:35yb

Mae’r adroddiad hwn, sef fy ail adroddiad blynyddol ar gyfrifon awdurdodau lleol, yn crynhoi canlyniadau gwaith yr archwilwyr ar gyfer 2011-12 yn y mathau canlynol o awdurdodau yng Nghymru: Awdurdodau unedol (gan gynnwys wyth cronfa bensiwn), Awdurdodau'r heddlu, Awdurdodau tân ac achub ac Awdurdodau'r parciau cenedlaethol.

22 Tach 2012 - 9:35yb

Mae'r diweddariad hwn yn dangos bod cyrff y GIG wedi cael trafferth i reoli o fewn terfynau eu hadnoddau presennol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Mae'n debygol y bydd diffyg sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.

22 Tach 2012 - 9:35yb

Mae'r diweddariad hwn yn dangos bod cyrff y GIG wedi cael trafferth i reoli o fewn terfynau eu hadnoddau presennol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Mae'n debygol y bydd diffyg sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.

8 Tach 2012 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

22 Awst 2012 - 10:35yb

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar un elfen o gyfrifoldebau'r rhiant corfforaethol: helpu plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal i gyflawni eu potensial addysgol. 

12 Gorff 2012 - 10:35yb

Rhydd yr adroddiad hwn asesiad manylach o'r sefyllfa ariannol o fewn holl gyrff y GIG, a'r heriau ariannol a wynebir gan y GIG

Tudalennau