A yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni dros Gymru?

30 Tach 2017 - 12:30yb

Er bod y gwariant trwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) ar gynnydd, nid yw wedi datblygu mor gyflym â'r disgwyl, gan godi pryderon ynghylch ei ariannu a'i arbedion llai na'r disgwyl.

Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwariodd cyrff cyhoeddus £234 miliwn trwy'r GCC yn ystod 2016–17, ond roedd hyn yn llawer llai na'r rhagamcanion blaenorol.

Er bod y gwariant trwy ei drefniadau caffael wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall ers iddo ddechrau yn 2013, nid yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r GCC cymaint ag y disgwylid. O'r £234 miliwn a wariwyd trwy'r GCC yn ystod 2016–17, £222 miliwn a wariwyd gan y 73 sefydliad sy’n aelodau. Roedd cynllun busnes 2015 y GCC wedi targedu ffigur o £2.2 biliwn.

Hyd at ddiwedd 2015–16, roedd benthyciad £5.9 miliwn 'Buddsoddi i Arbed' Llywodraeth Cymru yn talu am y rhan helaeth o gostau gweithredu'r GCC. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddai'r GCC yn dechrau talu'n ôl y benthyciad wedyn o'r incwm dros ben a gynhyrchwyd gan ad-daliad cyflenwr. Fodd bynnag, dim ond £0.9 miliwn o ad-daliad a grëwyd yn ystod 2016–17, o'i gymharu â chostau gweithredu o £2.8 miliwn. Er bod arwyddion y bydd yr incwm yn cynyddu yn ystod 2017–18, ni ddisgwylir i'r GCC gael digon o hyd i dalu ei gostau. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chronfeydd wrth gefn i dalu'r diffyg hwn.

Fel ag yr oedd ym mis Awst 2017, mae'r GCC wedi adrodd £14.8 miliwn o arbedion i gyrff cyhoeddus ar gyfer 2016–17, yn ogystal â buddion ehangach i'r economi, megis creu swyddi a gwariant uniongyrchol â chyflenwyr o Gymru. Er bod yr arbedion a adroddwyd wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall, mae'r ffigurau wedi bod yn llawer is na rhai o'r amcangyfrifon cynnar. 

Canfu'r adroddiad hefyd fod rhai cyrff cyhoeddus wedi bod yn poeni nad yw'r GCC yn ddigon annibynnol o Lywodraeth Cymru a'i fod yn canolbwyntio ar faterion cenedlaethol yn hytrach nag ar flaenoriaethau lleol.

Mae'r adroddiad yn gwneud pum argymhelliad ar faterion, sy'n cynnwys y canlynol:

  • nodi pam nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r GCC cymaint â'r disgwyl;
  • egluro'r broses i aelodau optio allan o ddefnyddio trefniadau caffael y GCC; a
  • chytuno ar ddull ariannu cynaliadwy ar gyfer y GCC.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas heddiw: "Mewn egwyddor, mae cefnogaeth eang ar gyfer y GCC o hyd, ond mae'n hanfodol fod gan gyrff cyhoeddus hyder ynddo, ac mae'n amlwg bod cryn bellter i fynd cyn cyflawni'r disgwyliadau blaenorol ynghylch twf y GCC. Mae angen i'r GCC wneud mwy i nodi a mynd i'r afael â'r rhesymau pam nad yw cyrff cyhoeddus yn dewis defnyddio'i drefniadau caffael ac i argyhoeddi cyrff cyhoeddus o'r buddion.”