A yw trefniadau caffael yn rhoi gwerth am arian i gyrff cyhoeddus Cymru?

17 Hyd 2017 - 12:20yb

Canfuom, mewn tirwedd sy'n newid, fod cyfle clir i wella trefniadau caffael ar lefel genedlaethol a lleol. 

Yn 2015–16, gwariodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru oddeutu £6 biliwn trwy drefniadau caffael ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau a gwaith, ond mae angen iddynt wella eu perfformiad i sicrhau gwerth am arian. Mewn tirwedd sy'n newid, mae cyrff cyhoeddus yn wynebu heriau wrth gydbwyso blaenoriaethau caffael a allai fod yn gystadleuol, ymateb i bolisi, deddfwriaeth a thechnoleg newydd, ac wrth recriwtio a chadw personél allweddol.

Mae datganiad polisi 2015 Llywodraeth Cymru'n amlinellu'r prif egwyddorion ar gyfer caffael cyhoeddus, yng nghyd-destun deddfwriaeth gaffael berthnasol yr UE a'r DU. Fodd bynnag, mae ein hadroddiad wedi canfod y gellid cryfhau trefniadau llywodraethu cenedlaethol, o ystyried bod effeithiolrwydd y bwrdd caffael cenedlaethol yn gyfyngedig.

O'r £6 biliwn a wariwyd trwy drefniadau caffael yn 2015–16, roedd £880 miliwn trwy gaffael cydweithredol a oedd yn cael ei reoli gan y tri phrif gonsortiwm a sefydliad prynu cyhoeddus yng Nghymru. Er bod y sefydliadau hyn yn adrodd arbediadau ariannol a buddion eraill, mae gan gyrff cyhoeddus safbwyntiau cymysg ynghylch eu heffeithiolrwydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu cyfle clir i wella trefniadau caffael ar lefel leol. Mae cyrff cyhoeddus wedi profi sawl methiant caffael nodedig ac mae ein gwaith archwilio'n parhau i nodi enghreifftiau o wendidau eraill. Mae deddfwriaeth newydd – gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – yn cyflwyno heriau newydd, ac er gwaethaf rhywfaint o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mae cyrff cyhoeddus yn parhau i brofi problemau o ran recriwtio a chadw personél caffael cymwys. Mae datblygiadau mewn technoleg yn cyflwyno cyfleoedd i wneud prosesau caffael yn fwy effeithlon, ond nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gyson eto.

Mae adroddiad heddiw'n gwneud wyth argymhelliad ynghylch problemau, gan gynnwys: 

  • Aelodaeth o'r Bwrdd Caffael Cenedlaethol – mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyfuno'r bwrdd hwn â bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
  • Adolygiadau rheolaidd gan gyrff cyhoeddus o'u strategaethau a pholisïau caffael i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn gyfredol wrth i’r dirwedd newid.
  • Cwmpas unrhyw Wiriadau Addasrwydd Caffael yn y dyfodol – mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwriadu cyflwyno rhaglen newydd o wiriadau.
  • Argymell bod Llywodraeth Cymru'n archwilio effaith cyflog gwahaniaethol ar gyfer staff caffael ar draws gwahanol sectorau ac unrhyw atebion posibl.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: "Caffael yw un o'r prif ffyrdd y mae angen i gyrff cyhoeddus allu dangos eu bod yn sicrhau gwerth am arian. Mae ein canfyddiadau'n glir: er bod cyrff cyhoeddus yn wynebu amrediad o heriau mewn tirwedd gaffael sy'n newid, gallant wneud mwy i gryfhau eu trefniadau caffael ac mae enghreifftiau diweddar yn amlygu'r peryglon ariannol a'r risgiau i enw da sefydliad pan fo caffael yn mynd o chwith."