Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin

20 Gorff 2017 - 12:03yb

Er iddo gael ei osod yn llwyddiannus, ni wnaeth partneriaid cyflawni Llywodraeth Cymru liniaru risgiau gwrthdaro buddiannau yn briodol, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £810,000 i helpu i adeiladu tyrbin gwynt CELT2 yn Sir Gaerfyrddin.
Er bod y tyrbin yn gweithio’n llwyddiannus, mae nifer o wendidau llywodraethu wedi’u nodi, gan gynnwys rhai yn ymwneud â’r broses o reoli gwrthdaro buddiannau. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant paratoi o £25,000 a benthyciad adeiladu ad-daladwy o £785,000 o’i Rhaglen Gymorth ar gyfer Ynni Adnewyddadwy i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig (menter ddielw), i gyfrannu at adeiladu tyrbin gwynt 500kW yn Salem, Sir Gaerfyrddin.

Nod rhaglen Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yng Nghymru a berchnogir yn lleol. Adeiladwyd CELT2 gan y datblygwr masnachol Seren Energy a’i brynu wedyn gan Ynni Sir Gâr Cyfyngedig am £1.5 miliwn gan ddefnyddio £785,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid preifat.

Dechreuodd CELT2 gynhyrchu trydan ym mis Medi 2016 ac mae’r refeniw o werthu’r trydan hwn wedi hwyluso ad-dalu rhandaliadau’r benthyciad yn gynharach na’r amserlen, yn ogystal â thalu am nifer o gynlluniau lleol megis waliau cerrig sychion, paneli solar a storfa batri yn y neuadd bentref gyfagos.

Ond ar ôl derbyn gohebiaeth gan drigolion ac Aelod Cynulliad lleol, a oedd yn mynegi pryder ynghylch cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig, cynhaliodd yr Archwilydd Cyffredinol ymchwiliad gwerth am arian o’r prosiect. Canfu’r adroddiad y canlynol:

  • Rhoddodd Llywodraeth Cymru ormod o ddibyniaeth ar drefniadau’r cwmni a oedd yn cyflawni’r rhaglen, sef yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, i reoli risgiau o ran gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a phosibl a nodwyd yn y cais ar gyfer ariannu CELT2. Nid oedd y trefniadau hyn yn ddigonol i liniaru’r risg i lefel dderbyniadwy cyn rhyddhau cyllid cyhoeddus i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig.
  • Fodd bynnag, er na reolwyd gwrthdaro buddiannau yn dda yn rhan o lywodraethu’r prosiect hwn, canfu’r adroddiad nad oedd yr un o’r unigolion dan sylw wedi gweithredu yn amhriodol yn gysylltiedig ag unrhyw faterion lle yr oedd ganddynt fuddiannau a oedd yn gwrthdaro.
  • Roedd diffyg manylder a chydbwysedd digonol yn y cyflwyniad swyddogol a baratowyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru i gael cymeradwyaeth ar gyfer y pecyn ariannu arfaethedig gan eu Gweinidog. Ni wnaeth y cyngor:
    • nodi’r gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a phosibl sylweddol a oedd yn bodoli;
    • roi unrhyw eglurhad felly, o sut yr oedd y swyddogion wedi lliniaru’r risgiau hyn a risgiau eraill i lefel dderbyniadwy; ac
    • yn sail i hyn, roedd gwarged cymunedol o £2.6 miliwn amcangyfrifedig yn deillio o fodel rhagamcanu a ddatblygwyd gan Swyddog Datblygu Technegol a oedd yn destun gwrthdaro buddiannau gan ei fod yn gyfarwyddwr Ynni Sir Gâr Cyfyngedig.
  • Ni welodd yr Archwilydd Cyffredinol unrhyw dystiolaeth yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso’n annibynnol y gwarged o £2.6 miliwn wedi’i ragamcanu nac wedi ymdrechu i amlinellu ystod o ganlyniadau posibl i’r Gweinidog. Mae’n bwysig nodi bod yr amcangyfrif a ddyfynnwyd oddeutu ddwywaith yn fwy na’r ffigur a gadarnhawyd yn annibynnol o £1.3 miliwn o fuddiant a ddefnyddiwyd gan Ynni Sir Gâr Cyfyngedig ei hun yn rhan o gynnig cyfranddaliadau i’r cyhoedd yn fuan ar ôl hynny.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

“Gall cynyddu nifer y gosodiadau a berchnogir yn lleol gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus, ddarparu datblygiad economaidd cynaliadwy i gymunedau yng Nghymru. Fodd bynnag, yn achos CELT2, mae’n peri pryder bod trefniadau llywodraethu gwan wedi achosi risg o danseilio hygrededd y prosiect.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i nodi a rheoli gwrthdaro buddiannau, yn ogystal â sicrhau bod partneriaid cyflawni yn dangos trefniadau effeithiol o ran nodi a lliniaru risg.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Bu’r Rhaglen Gymorth ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yn gweithredu rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Rhagfyr 2015 fel trefniad dros dro yn dilyn terfyn y rhaglen bum mlynedd ‘Ynni’r Fro’, a oedd hefyd yn cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. Y rhaglen olynol lawn i Ynni’r Fro yw’r Gwasanaeth Ynni Lleol, a gychwynnodd ar 1 Ionawr 2016. Mae’r rhaglenni hyn i gyd wedi eu cyflawni gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gan weithredu o dan gontract ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Roedd CELT2 yn brosiect a ddatblygwyd yn fasnachol, y cynigiwyd ei werthu ar adeg ei adeiladu i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig. Roedd y datblygwr sydd wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, sef Seren Energy, wedi cael cynigion ar gyfer y prosiect gan weithredwyr masnachol, ond rhoddodd y cynnig cyntaf i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig ar yr amod y gallai’r cwmni ariannu’r costau adeiladu a gwneud cynnig cyffelyb. Er mwyn gwneud hynny, roedd yn rhaid i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig gael benthyciad pontio i sicrhau’r tyrbin, a oedd eisoes wedi ei archebu, ar gyfer y prosiect CELT2.
  • Defnyddiwyd cymysgedd o arian Llywodraeth Cymru ac arian preifat i dalu’r £1.5 miliwn i brynu CELT2. Disgwylir i berchnogaeth gymunedol gynyddu gydag amser drwy gynnig cyfranddaliadau a fydd yn disodli ffynhonnell wreiddiol y cyllid .
  • Rhagwelwyd yng nghynnig Ynni Sir Gâr Cyfyngedig i Lywodraeth Cymru y byddai CELT2 yn cynhyrchu incwm o £10.5 miliwn yn ystod oes 25 mlynedd y prosiect, drwy gynhyrchu trydan. Rhagwelwyd hefyd y byddai £2.6 miliwn amcangyfrifedig o warged ar gael i gefnogi mentrau ynni adnewyddadwy y gymuned leol.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Ef sy’n gyfrifol am archwiliad blynyddol y rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o gronfeydd y pleidleisir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi elfennau o’r cyllid hwn i’r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Penodir yr Archwilydd gan y Frenhines, ac nid yw ei waith yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod, ac mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol. Ef hefyd yw Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu y Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â gweithredu ei swyddogaethau.