Yn yr adroddiad hwn, rydym yn ystyried perfformiad ariannol y 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac ansawdd eu trefniadau rheoli ariannol.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad hwn, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad, ers ein hadolygiad diwethaf, bod awdurdodau lleol yn gwella eu trefniadau cynllunio strategol ond yn cael anhawster yn datblygu a darparu’r arbedion a’r newidiadau i wasanaethau ar y cyflymder sy’n ofynnol i sicrhau cydnerthedd ariannol yn y dyfodol.