Mae hawliau mynediad yr Archwilydd Cyffredinol ac Archwilwyr Penodedig yn hollbwysig wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cael eu dal yn atebol drwy waith archwilio.
Mae’r daflen hon yn egluro’r hawliau mynediad ac yn mynd i’r afael â rhai cwestiynau cyffredin cysylltiedig. Mae hefyd yn nodi’r ystyriaethau y bydd archwilwyr yn rhoi sylw iddynt wrth fynd ati i ymarfer a gorfodi’r cyfryw hawliau.