Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer cydweddu data sy'n helpu cyrff cyhoeddus i ganfod ac atal twyll a gordaliadau o'r pwrs cyhoeddus ledled y DU.
Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn paru data bob ddwy fflyneddar hyd a lled sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae ymarferion y Fenter wedi arwain at ganfod ac atal gwerth mwy na £35.4 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru a £1.69 biliwn ledled y DU.
Menter Twyll Genedlaethol 2016-17
Arweiniodd y Fenter Twyll Genedlaethol 2016-17 at ganfod ac atal gordaliadau gwerth £5.4 miliwn.
Cymrodd 48 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ran yn yr ymarfer, gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, awdurdodau tân, cyrff y GIG, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a rhai cymdeithasau tai a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhaglen y Fenter Twyll Genedlaethol yn llwyddiannus oherwydd ei chyfranogwyr, mae mwy o gyfranogwyr yn golygu bod mwy o ddata ar gael i’w ddadansoddi ar gyfer twyll a gordaliadau.
Menter Twyll Genedlaethol 2018-19
Mae data ar gyfer Menter Twyll Genedlaethol 2018-19 i gael ei gyflwyno gan gyfranogwyr ym mis Hydref 2018. Mae'r dogfennau canlynol yn nodi'r amserlenni a'r manylebau data ar gyfer yr ymarfer.
Cod ymarfer ar baru data
Paratowyd Cod Ymarfer ar Baru Data Archwilydd Cyffredinol Cymru [PDF 603KB Agorir mewn ffenest newydd] i gynorthwyo pawb sy'n cymryd rhan mewn gwaith paru data.
Sut all fy sefydliad i gymryd rhan?
Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych am ddarganfod mwy cysylltwch â ni ar menter.twyll@archwilio.cymru.