Ers 2005, mae Swyddfa Archwilio Cymruhefyd wedi cyhoeddi adroddiadau o bwys ar nifer o bynciau sy'n gysylltiedig â grantiau cyhoeddus. Rydym yn dwyn ynghyd yr holl brofiad hwn ynyr adroddiad hwn i ateb y cwestiwn, ‘A gaiff grantiau'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu rheoli'n dda?’
Ein casgliad cyffredinol o'n gwaith yw bod llawer o grantiau yn cael eu rheoli'n wael, gyda'r rhai sy'n rhoi arian a'r rhai sy'n ei dderbyn yn methu â dysgu o gamgymeriadau
yn y gorffennol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth glir o awydd i wella ac mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i'w helpu i wneud hynny, yn rhannol drwy gyhoeddi'r adroddiad hwn.