Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol o sicrhau gwelliant parhaus?’
O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) (2009) (y Mesur) mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal Asesiad blynyddol o Welliant ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru, hynny yw cynghorau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.