Fy mhrofiadau personol fel unigolyn LGBTQ+

05 Tachwedd 2020
  • helo, fy enw i yw Jen. Rwy’n archwilydd ariannol, yn gerddor, yn rhiant i gi, ac yn aelod o’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Queer (LGBTQ+).

    Gan ei bod hi’n fis Pride, meddyliais y dylwn i rannu rhai o fy mhrofiadau. Mae’r pwyslais yma ar ‘fy’ – rwy’n ymwybodol iawn fod profiad pob person fel unigolyn LGBTQ+ yn gallu bod yn wahanol iawn.

    Ers cyhyd ag y galla i gofio, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n hoyw. Fodd bynnag, dim ond hanner ffordd drwy’r ysgol gynradd wnes i sylweddoli nad oedd pawb yn meddwl yr un fath â mi (sioc a braw!). Dyna pryd yn union y sylweddolais i fy mod i’n wahanol i lawer o fy nghyfoedion, a dyma ddechrau fy nhaith o geisio canfod beth ddiawl roedd hynny’n ei olygu.

    Cefais fy magu yn ystod y 90au a’r 00au, pan oedd y term ‘gay’ yn dal i gael ei ddefnyddio’n gyffredin fel sarhad, a phan mai’r seleb lesbiaidd amlycaf oedd Ellen DeGeneres (dydy rhai pethau ddim yn newid). Oherwydd arwyddocâd negyddol y gair ‘gay’, roeddwn i’n tybio nad oedd fy rhywioldeb yn rhywbeth a fyddai’n cael ei dderbyn gan fy nghyfoedion, ac felly cuddiais y rhan honno ohonof fy hun nes oeddwn i’n 16 oed. Stori arall yw pa mor dda wnes i lwyddo i ‘guddio’ hynny!

    Pan oeddwn yn fy arddegau canol i hwyr, dechreuodd pethau newid yn y cyfryngau, gyda mwy o gymeriadau hoyw yn ymddangos ar raglenni teledu (cyn cael eu lladd ychydig o benodau yn ddiweddarach!) a cherddoriaeth ‘emo’ (ymchwiliwch!) yn gwneud y syniad o gyfnewidioldeb rhywiol, cyfnewidioldeb rhywedd a steiliau gwallt gwael yn fwy derbyniol. Dyma hefyd pryd wnes i ddarganfod gwefan o’r enw After Ellen (dyfalwch ar ôl pwy gafodd hi ei henwi?!). Dyma’r mecca o gynnwys lesbiaidd a oedd yn eich cyfeirio at ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddoriaeth, cyfresi ar y we a llawer mwy. Mae pobl heterorywiol yn gweld adlewyrchiad o’u hunain yn y rhan fwyaf o gynnwys yn y cyfryngau, felly roedd gweld pobl debyg i fi mewn ffilmiau ac ati yn agoriad llygad. Wrth edrych yn ôl, alla i ddim pwysleisio digon sut gwnaeth dod o hyd i’r wefan hon fy helpu i dderbyn fy rhywioldeb a rhoi’r hyder i mi ddod allan i fy nheulu a’m ffrindiau.

    Roeddwn i’n lwcus bod fy ffrindiau a fy nheulu mor gefnogol ohonof, a wnaethon nhw ddim fy nhrin i ddim gwahanol ar ôl darganfod fy mod i’n hoyw. Fodd bynnag, ar ôl dod allan, roeddwn i’n meddwl bod hynny i gyd drosodd – na fyddai’n rhaid i mi ddod allan byth eto. Wel, wel, roeddwn i’n anghywir! Bob tro rwy’n cwrdd â pherson newydd, mae’n rhaid i mi ddod allan eto. Mae hyn wedi peri trafferth arbennig i mi yn y gweithle, lle dydych chi byth yn gallu bod yn siŵr y bydd pobl yn eich derbyn.

    Unwaith eto, rydw i wedi bod yn hynod o ffodus i gael cefnogaeth fy nghydweithwyr ym mhob sefydliad lle rydw i wedi gweithio. Fodd bynnag, Archwilio Cymru yw’r sefydliad cyntaf i mi fod yn rhan ohono sydd nid yn unig yn croesawu ond hefyd yn hyrwyddo materion LGBTQ+ yn ogystal â nifer o faterion eraill drwy nifer o fecanweithiau cyfathrebu mewnol, gan gynnwys digwyddiadau dysgu dros ginio, erthyglau rheolaidd ar y fewnrwyd, rhwydweithiau ac ati. Os nad ydych chi’n uniaethu fel LGBTQ+, rwy’n credu weithiau y gall ymddangos fel ein bod yn sôn llawer am y materion hyn yn Archwilio Cymru, ond fel rhywun sy’n uniaethu yn y ffordd honno, gallaf ddweud fod gwybod eich bod yn cael eich cefnogi yn golygu cymaint.

    Rydyn ni wedi symud ymlaen cymaint ers pan oeddwn i’n ifanc (iau), ond mae cryn dipyn o ffordd i fynd hyd nes y mae bod yn LGBTQ+ yn rhywbeth mor gyffredin â gwneud paned o goffi yn y bore, a hyd nes y gallwch chi fynd allan yn gyhoeddus gyda’ch partner heb orfod meddwl ddwywaith am eich gweithredoedd.

    Does dim rhaid i chi ddeall popeth am y gymuned LGBTQ+. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n derbyn ein cymuned, yn dysgu pryd gallwch chi, ac yn ceisio peidio â barnu neu wneud hwyl am bethau sy’n ymddangos yn wirion neu’n ddibwys i chi – mae’n bosib eu bod yn golygu’r byd i rywun arall.

    Jen photoAm yr awdur

    Mae Jennie Morris yn uwch-archwilydd o fewn y tîm Archwilio Ariannol. Fe ymunodd ag Archwilio Cymru yn 2016 fel hyfforddai graddedig yn dilyn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.