Corona-ddiwylliant

05 Tachwedd 2020
  • Y llynedd, ysgrifennais flog mewnol am ddiwrnod rhyngwladol i ddileu gwahaniaethu ar sail hil, a ysgogodd rai trafodaethau diddorol. Gofynnwyd i mi yn ddiweddar a oedd awydd gen i ddiweddaru fy mlog gan ystyried yr hyn a drafodwyd. Yna daeth y pandemig, fe ddaeth blaenoriaethau eraill i’r brig a syrthiodd y blog i waelod y rhestr. Fe ddwedwyd, paid â phoeni mae yna ddiwrnod i bopeth (roedden nhw'n iawn, 18 Mai yw diwrnod 'Dim Llestri Brwnt’! Fe wnâi gefnogi hwna!). Oes awydd gen i ysgrifennu blog am ddiwrnod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Ddiwylliannol ar Gyfer Deialog a Datblygiad? [agorir mewn ffenest newydd]? Dwi wastad yn barod am her, felly dyma fy meddyliau am ddiwylliant ar hyn o bryd.

    Dwi’n amau eich bod chi, fel fi, yn gweld bod llawer o ddyddiau rhyngwladol yn mynd a dod heb ail ystyriaeth iddo, felly mae'n reit braf cael cyfle i oedi a meddwl. Ac fe wnes i feddwl, lot a dweud y gwir, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau presennol. Mae diwylliant yn air a ddefnyddiwn yn aml ym mhob math o gyd-destun, soniwn am greu diwylliannau sefydliadol, rydym hyd yn oed yn archwilio diwylliannau sefydliadol! Ond i mi mae 'diwylliant' yn golygu pobl – teulu, ffrindiau, cymunedau, mae'n creu delweddau o brofiadau sy'n cael eu rhannu fel bwyd, cerddoriaeth, dawns a chelf. Efallai mai symptom o’m meddylfryd ar hyn o bryd yw hyn ond pan ddechreuais i ysgrifennu’r blog hwn yr hyn oll yr oeddwn yn gallu meddwl amdano oedd beth sydd wedi'i golli yn 2020, yr holl bethau na allem eu dathlu na’u gwneud. Mae’r holl syniad o ddiwylliant yn teimlo’n reit bell ar hyn o bryd. Rwy'n cofio gwylio'r newyddion ym mis Ionawr ac yn teimlo'n drist nad oedd teuluoedd yn China yn gallu dathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd am eu bod cyfyngiadau eisoes yn eu lle. Yn fwy diweddar mae teuluoedd Iddewig wedi colli dathlu’r Pasg gyda'i gilydd ac mae Mwslimiaid wedi bod yn torri’u ympryd Ramadan heb eu teuluoedd estynedig. Y tu hwnt i ddathliadau crefyddol mae ein theatrau, amgueddfeydd, dosbarthiadau celf, sinemâu a bwytai ar gau. Y gweithgareddau hyn sy'n ein cysylltu ni fel pobl, yn gwneud i ni wenu ac yn rhoi egni i ni.

    Ond yna daeth yr haul ac fe daflodd oleuni ar fy meddyliau hefyd. Sylweddolais fod bodau dynol yn wydn iawn ac nad yw diwylliant yn cael ei golli – mae'n newid. Os rhywbeth, efallai fod cyfleoedd diwylliannol yn fwy hygyrch nag erioed, oherwydd nid yw symudedd a chost yn gymaint o broblem. Efallai bod diwylliant a chredoau pobl yn blaguro – rydym yn bendant wedi gweld cymaint o garedigrwydd yn yr ychydig misoedd diwethaf. Mae pob un ohonom wedi addasu, mae ymgynnull crefyddol yn digwydd yn rhithiol, mae teuluoedd a chyfeillion wedi sefydlu tafarndai a bwytai rhithiol, mae theatrau yn dangos cynyrchiadau ar-lein am ddim (neu ffi fechan), mae dosbarthiadau celf wedi bod ar y teledu, a chwisiau, lot o gwisiau!!

    Mae Geiriadur Gomer yn diffinio diwylliant fel 'arfer, cred a meddwl pobl arbennig, mewn man arbennig ar adeg arbennig’. Mae yna ddiffiniadau amrywiol, ond roedd yr un yma yn taro deuddeg gyda mi, mae'n teimlo’n berthnasol. Mae ein ffordd o fyw wedi cael ei herydu rywfaint yn ddiweddar, ond mae diwylliannau newydd wedi'u creu drwy'r pandemig. Rydyn ni wedi creu 'Corona-ddiwylliant'. Trwy’r cyfnod yma mae yna ymdeimlad rhyngwladol o fynd drwy’r un boen, yr un diflastod, yr un gwerthfawrogiad, yr un hiraeth. O hyn mae gennym ddiwylliant unedig ar draws y byd o guro dwylo ar gyfer gweithwyr allweddol, sefydlu bandiau balconi, cymryd rhan mewn aerobeg stryd, ymuno â chorau rhithiol, torri ymprydio’n rhithiol a gweld cyngherddau yn dod â cherddorion ynghyd o bob cwr o'r byd. Ai cynnydd yw hwn? Mae'r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod gan ' dri chwarter o wrthdaro sylweddol y byd ddimensiwn diwylliannol'. Mae'n parhau i ddweud bod 'pontio'r bwlch rhwng diwylliannau yn fater brys ac yn angenrheidiol ar gyfer heddwch, sefydlogrwydd a datblygiad'. Mae'n debyg bod gennym lawer i'w wneud i bontio bylchau diwylliannol, ond o leiaf rydym yn gwybod ein bod yn gallu ei wneud.

    Mae wedi cael ei ddweud ein bod ni'n byw trwy hanes, ond gan edrych arno o safbwynt arall – rydyn ni'n creu hanes trwy greu arferion newydd ac atgyfnerthu credoau a all fyw yn hirach na'r firws. Ac nid yw'r arferion yma’n rhwym wrth grefydd, hil na gwahaniaethau ond gyda phobl. Rwy'n credu bod hynny 'n gynnydd.

    Am yr awdur

    Enjoying the sunshine_hubMae Urvisha Perez yn uwch-archwilydd sy'n gweithio yn y tîm perfformiad iechyd ac wedi gweithio i Archwilio Cymru ers pedair blynedd a hanner. Y tu allan i'r gwaith, mae Urvisha yn ddarllenydd brwd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar ei chrochenwaith!