Fy lleoliad gwaith tri mis

05 Tachwedd 2020
  • Mae Rhaglen Change 100 Leonard Cheshire yn paru myfyrwyr a graddedigion anabl talentog gyda chyflogwyr blaengar. Diolch i Change 100 croesawom Alex Swift i’r tîm cyfathrebu ar interniaeth tri mis dros yr haf. Mae Alex wedi ysgrifennu am ei brofiad.

    Dwi’n trafod yma fy lleoliad gwaith tri mis gyda’r tîm cyfathrebu gan ddarparu trosolwg o’r gwersi a ddysgais o’m mhrofiad o gyfryngau, gweithio mewn tîm a syndrom Asperger.

    Des i i Swyddfa Archwilio Cymru heb wybod beth i’w ddisgwyl ond yn gobeithio am brofiad gwerthfawr.

    Mae fy mhrofiad fel rhywun graddedig ag Asperger yn fy rhoi mewn sefyllfa unigryw. Ar ôl gorffen yn y brifysgol roeddwn i’n benderfynol o symud ymlaen mewn ffordd a oedd yn berthnasol i fy ngradd yn y cyfryngau. Treuliais amser yn gwirfoddoli gydag oedolion ag awtistiaeth, gan eu helpu i fod yn rhan o’u cymunedau – roedd angen imi ddangos parch am yr holl gefnogaeth gefais i. Fe wnaeth fy agwedd fy helpu i ddechrau lleoliad gwaith yn fan hyn. Dim ond 32% o oedolion ag awtistiaeth sydd mewn rhyw fath o waith, ac er y bu gwelliannau, mae 70% o oedolion ag awtistiaeth yn dweud y byddent yn teimlo’n llai ar y cyrion pe byddent yn cael cefnogaeth. Am y rhesymau hyn, mae’r rhaglen Change 100 – menter elusennol sy’n dod o hyd i leoliadau gwaith i raddedigion anabl – wedi bod yn gam ysgogi pwysig.

    Mae’r rhaglen yn trefnu ei phroses ymgeisio yn yr un modd ag unrhyw swydd sgiliau. Rhoddodd y cwestiynau cymhwysedd gyfle imi fanylu ar fy nhraethawd hir ar ‘newyddion ffug’, fy rhan i yng ngorsaf radio’r brifysgol, a mwy. Yn y ganolfan asesu roeddwn i’n teimlo cyffro petrus – cyfathrebu fu’n fan gwan o ran sgiliau erioed. Fodd bynnag, ar ôl sgwrsio hamddenol â chyd-ymgeiswyr a thasg gwaith tîm a oedd yn cynnwys sefyllfa ynys bell, rhestr o eitemau a dadl am effeithiolrwydd tabledi gwrth-falaria (bu’n rhaid i mi gyfaddawdu, yn y pen draw), roeddwn i’n teimlo’n fwy cysurus.

    Yn y cyfweliad, pan ofynnwyd imi enwi rhywbeth oedd yn bwysig i mi, atebais ‘gonestrwydd’. Byddai unrhyw brofiad y byddwn i’n ei chael ym maes cyfathrebu wedi’i seilio ar egwyddor graidd o ddefnyddio’r cyfryngau i ddatgelu a rhannu’r gwirionedd. At hynny, nid yw’r cyfryngau yn sicr heb elfen o geisio a gwella. Rwy’n cofio mynd i drafodaeth pan oeddwn i yn y brifysgol gan y cyflwynydd radio, Ian Lee, a ddywedodd wrthyf er bod rhai pobl yn y diwydiant yn fwy craff nag eraill, prin yw’r arbenigwyr di-fai. Y wers: Yn hytrach nag ystyried pob bwlch yn eich gallu yn wendid, byddwch yn onest am eich diffygion a manteisio ar bob cyfle i ddysgu mwy.

    Er mai’r ddelwedd yn fy mhen o Swyddfa Archwilio Cymru oedd sefydliad wedi ymrwymo i bori dros rifau, roeddwn i wedi cyffroi i ddysgu am swyddogaeth y sefydliad o ran dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif a ffurfio cymdeithas. Cefais y cyfle i gyfrannu at brosiectau yn ymwneud â digartrefedd, yr amgylchedd, a mwy. Gwellodd fy sgiliau cyfathrebu, oherwydd bu’n rhaid imi weithio ar y cyd ar gyfres o gynlluniau a oedd yn cynnwys y cyfryngau, delwedd, fideo, cynllunio, cyfieithu a TG – yn sgil hyn roeddwn i’n gallu cyflawni cydbwysedd rhwng gwaith annibynnol a gwaith tîm. Elfen arall a wnaeth fy nharo oedd pa mor groesawgar yw amgylchedd Swyddfa Archwilio Cymru.

    Trwy weithio ym maes cyfathrebu, rydych yn cael cipolwg ar y rhwydwaith cyfan, ac yn dysgu am swyddogaeth pob tîm. Datblygais berthynas â staff drwy fy nghariad at gerddoriaeth a ffilm. Pwyslais ein diwrnod o’r swyddfa oedd ymarferion gwaith tîm, fel gwneud tŵr malws melys a sbageti, yn ogystal â chyfres o weithgareddau heriol ond hynod hwyl ar thema’r ‘crystal-maze’ (waeth beth ddwedwch chi, mae’r elfennau hwyl o weithio yma yn helpu i feithrin ymdeimlad o waith tîm a chydweithredu). Roedd angen cymorth arnaf i drwy gydol fy lleoliad gwaith, ac roedd hynny yn rhannol yn ymwneud â magu hyder i gynnwys fy hun mewn meysydd fel y cyfryngau cymdeithasol, gwaith prosiect a golygu fideo, archwilio amrywiaeth o weithgareddau ac ennill sgiliau newydd!

    Adeg hollbwysig yn fy mhrofiad oedd pan wnes i gais am swydd 12 mis yn y tîm Cyfnewid Arfer Da. Fe wnes i hynny o ganlyniad i fy modlonrwydd i barhau yn rhan o sefydliad sy’n gweithio i wella’r gymdeithas trwy newid y ffordd yr ydym yn meddwl am y gwasanaethau hanfodol sy’n effeithio ar ein bywydau. Nid wyf i eisiau canolbwyntio gormod ar y cais oherwydd ches i ddim y swydd ei hun. Fodd bynnag, mae’n bleser gen i ddweud eu bod nhw wedi cynnig swydd chwe mis yn y tîm pod-ddarlledu. Er nad wyf i’n hollol sicr beth i’w ddisgwyl, nid yw’r agwedd honno wedi fy atal i erioed o’r blaen. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gymaint â phosibl.

    Felly, beth ydw i wedi’i ddysgu o hyn? Rwy’n credu mai’r brif wers yw peidio byth â bod ofn gofyn am help, ni waeth pa gyffro neu nerfau yr ydych yn eu teimlo. Helpodd y syniad hwnnw fi drwy gydol fy addysg, helpodd fi i gael gwaith, mae’n rhoi cyfiawnhad clir i sefydliadau fel hyn ac mae’n parhau i fod yn un y byddaf yn ei defnyddio yn y chwe mis nesaf a thu hwnt.

    Ynglŷn â’r Awdur

    alex-swift

    Mae Alex Swift wrthi ar leoliad gwaith gyda Swyddfa Archwilio Cymru. Gweithiodd yn y tîm cyfathrebu cyn dechrau ei swydd yn podledio gyda’r Tîm Cyfnewidfa Arfer Da. Cyn ymuno enillodd radd mewn Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduriaeth o Brifysgol De Cymru.