Cynhadledd Cynghrair Henoed Cymru

05 Tachwedd 2020
  • Mae ein cynllun blynyddol presennol yn pennu cyfeiriad cyffrous i Swyddfa Archwilio Cymru.

    matt and eurosYr un peth sydd wedi aros gyda mi ers i mi ddarllen y cynllun oedd y pwyslais eglur a hir-ddisgwyliedig ar ‘pam rydym ni yma’. Yn gryno, mae gennym ni swyddogaeth freintiedig o sicrhau, esbonio ac ysbrydoli. A chyda hyn mewn golwg, roedd Matt Brushett, Euros Lake a minnau yn bresennol yng nghynhadledd ddiweddar Cynghrair Henoed Cymru i gyflwyno’r canlyniadau sy’n dod i’r amlwg o’n hadolygiad o’r ‘Drws Blaen’ i Ofal Cymdeithasol.

    Ychydig o gefndir...

    Arweiniodd galw cynyddol yn sgil newidiadau demograffig oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru, ynghyd ag effaith barhaus cyni cyllidol ar gyllid cyhoeddus, i Lywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiwygio, symleiddio a moderneiddio gofal cymdeithasol. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth o wasanaethau gael ei hysgogi gan bartneriaethau a chydweithredu ac mae’n hyrwyddo gwasanaethau ataliol sy’n gallu atal anghenion rhag cynyddu drwy sicrhau bod y cymorth iawn ar gael ar yr adeg iawn.

    Er mwyn gwneud hyn, mae angen bod yr awdurdodau wedi creu ‘drws blaen’ cynhwysfawr i ofal cymdeithasol; i fod â systemau effeithiol ar waith i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth priodol ac wedi’i deilwra. Bydd gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth effeithiol yn cyfeirio pobl at wasanaethau ataliol a chymunedol ond hefyd yn nodi pan fydd rhywun angen asesiad neu gymorth mwy arbenigol. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar ddyfarnu effeithiolrwydd y ‘drws blaen’ newydd hwn i ofal cymdeithasol.

    ‘Mae’n digwydd yn gyffredinol bod sicrwydd yn symud ar yr un cyflymdra â gallu’ – Samuel Johnson

    nickDair blynedd ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth arloesol, un o’n negeseuon pwysig i’r gynhadledd oedd y sicrwydd y gallem ei roi bod agweddau allweddol ar y ddeddf yn cael eu darparu, ac yn benodol nad yw’r rhai sydd angen cymorth yn disgyn drwy’r rhwyd ac yn gallu cael gafael ar ofal cymdeithasol os byddant angen. Roeddem hefyd yn gallu rhoi sicrwydd bod trefniadau diogelu yn effeithiol yn gyffredinol ac yn cael eu blaenoriaethu i sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu hamddiffyn. Fodd bynnag, nodwyd heriau parhaus gennym hefyd o ran darparu gwasanaethau i ofalwyr ac roedd angen gwneud mwy o waith i ddarparu mynediad cyfartal at wasanaethau i ofalwyr.

    ‘Y peth anoddaf i’w esbonio yw’r cwbl amlwg y mae pawb wedi penderfynu peidio ei weld’ – Ayn Rand

    Mae dau o feysydd allweddol y Ddeddf yn canolbwyntio ar awdurdodau lleol yn creu swyddogaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth effeithiol a bod â gwasanaethau ataliol a chymunedol digonol i gyfeirio pobl atynt. Esboniwyd yn fanwl gennym drwy ein hadolygiad pam mae’r rhain yn bwysig. Gan ddefnyddio ein gwaith ymchwil sylweddol ar ofalwyr, roeddem hefyd yn gallu amlygu a chyflwyno’r hyn sy’n gwneud gwasanaeth yn ‘dda’ a’r hyn sydd angen ei newid er mwyn helpu i wella llesiant pobl. Tynnwyd sylw gennym hefyd at le ceir bylchau ar hyn o bryd a thrwy ein hargymhellion yr hyn y mae angen ei newid i godi safonau a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

    ‘Yr unig adeg yr ydym ni’n sicrhau unrhyw fath o newid pendant yw pan fyddwn yn estyn allan … ac yn ysbrydoli ac ysgogi’ Alexandria Ocasio Cortez

    Soniais am ein swyddogaeth freintiedig ar y cychwyn; ein gallu i weld y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau a phrofi systemau o’r dechrau i’r diwedd i nodi’r hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae angen ei newid. Llwyddwyd drwy ein hadolygiad i nodi’r hyn nad yw’n gweithio, i hyrwyddo enghreifftiau arfer da ac i ysbrydoli gwasanaethau cyhoeddus i godi eu safonau. Mae rhoi adborth heb ofn na ffafriaeth yn uniongyrchol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau yn caniatáu i ni herio gwasanaethau cyhoeddus i gamu ymlaen a gwella.

    Ysbrydoli eraill, ysbrydoli ein hunain…

    Daeth yn amlwg iawn hefyd i Matt, Euros a minnau, o wrando ar y siaradwyr eraill, faint o ymddiriedaeth a pharch sy’n bodoli tuag at Swyddfa Archwilio Cymru. Ydym, rydym yn cael ein herio; ac oes, mae gwrthwynebiad i rai o’n negeseuon mwyaf cadarn. Ond, yn gyffredinol, mae pobl yn gwrando ar yr hyn yr ydym yn ei ddweud ac yn gwerthfawrogi ein barn. Maent yn ein hystyried fel llais annibynnol a fydd yn siarad yn blaen. Ond maent hefyd yn ein hystyried fel corff a all helpu i daflu goleuni ar yr hyn y mae angen ei newid ac a all helpu a chefnogi cyrff cyhoeddus i wella. Daethpwyd i’r casgliad gennym bod gallu sicrhau, esbonio ac ysbrydoli yn gweddu’n dda i’n gwaith ac na ddylem byth gymryd ein swyddogaeth ffodus yn ganiataol.

    Nick SelwynNick Selwyn

    Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan. Cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.