Ymgymerodd Llywodraeth Cymru â phroses sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd

27 Ion 2016 - 12:00yp

Er bod y cynnydd yn arafach na'r disgwyl ar adeg y caffaeliad

TMae'r Archwilydd Cyffredinol heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gaffaeliad a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn pryderu'n fwyfwy am ddirywiad y Maes Awyr yn y blynyddoedd cyn y caffaeliad, er ymdrechion i roi cymorth ac, yn ddiweddarach, i wella ei pherthynas gweithio â pherchnogion y maes awyr. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai perchnogaeth gyhoeddus yn rhoi’r sefydlogrwydd a'r ymroddiad a oedd eu hangen ar y Maes Awyr er mwyn ei ddatblygu yn y tymor hir.

Mae'r adroddiad yn cydnabod cyfyngiadau amser, ond yn nodi rhai gwendidau yn y ffordd roedd Llywodraeth Cymru yn paratoi'r achos busnes ar gyfer y caffaeliad. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gosod ei hamcanion buddsoddi yn ddigon eglur, na'i hystyriaeth o opsiynau eraill, risgiau a manteision. Rhoddodd Llywodraeth Cymru rywfaint o ystyriaeth i opsiynau eraill, gan gynnwys y syniad o fenter ar y cyd â phartner masnachol arall, ond prynu oedd yr opsiwn gorau o'r dechrau un, oherwydd cyfyngiadau'r opsiynau eraill.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw: Mae trawsffurfio'r Maes Awyr wedi bod yn fwy heriol nag yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar adeg y caffaeliad, er y bu rhai datblygiadau cadarnhaol. Mae'r Maes Awyr yn gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol iawn, ac yn dod o sylfaen etifeddol isel. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau'r adroddiad annibynnol y mae wedi'i gomisiynu’n ddiweddar er mwyn sefydlu dealltwriaeth eglur o iechyd ariannol cyffredinol y Maes Awyr ac o unrhyw ofynion ariannol sy'n debygol yn y dyfodol.

Gan ddibynnu ar gyngor proffesiynol, gwnaeth Llywodraeth Cymru drafod pris, a oedd yn cael ei lywio gan amcangyfrif o werth y Maes Awyr fel ased cyhoeddus, ac amrywiaeth o brisiadau masnachol. Roedd asesiad o werth cyhoeddus yr ased yn defnyddio tybiaethau gwahanol i'r prisiadau masnachol, yn unol â chanllawiau'r Trysorlys, ac roedd yn cynnwys y gwerth i ddefnyddwyr trafnidiaeth a manteision amgylcheddol. Gall prisiadau masnachol amrywio'n fawr iawn, yn dibynnu ar y tybiaethau a ddefnyddir – ac roedd hyn yn wir am gaffaeliad Llywodraeth Cymru ar y Maes Awyr. Yn y pen draw, derbyniodd Llywodraeth Cymru brisiad masnachol yn seiliedig ar dybiaethau penodol ynglŷn â pherfformiad masnachol cyffredinol y Maes Awyr – a oedd yn canolbwyntio ar asesiad cadarnhaol o dyfiant busnes – a chost y cyfalaf (y gyfradd adennill sydd ei hangen ar y buddsoddwr).

Ymgymerodd Llywodraeth Cymru â phroses sicrhau diwydrwydd dyladwy drwyadl. Er bod y gwaith o sicrhau diwydrwydd dyladwy yn nodi rhai risgiau sylweddol, cymerodd Llywodraeth Cymru gamau priodol er mwyn lliniaru'r risgiau lle roedd modd, trwy'r cytundeb gwerthu a phrynu.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu trefniadau llywodraethu cadarn ar gyfer rheoli ei buddsoddiad ar hyd fraich, gan ddilyn cyngor cyfreithiol i sefydlu cwmni daliannol. Mae gan y Maes Awyr gynllun busnes sy'n canolbwyntio ar gynnydd, er bod yr angen am gyllid allanol yn fwy nag a oedd y disgwyl ar adeg y caffaeliad, ac mae cynnydd yn erbyn y cynllun busnes cyffredinol wedi bod yn arafach nag a oedd y disgwyl yn flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyfleusterau benthyciadau masnachol sy'n werth
£23 miliwn, ac wedi comisiynu adolygiad o iechyd ariannol y Maes Awyr, ac unrhyw ofynion ariannol sy’n debygol yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn nodi nad oes cynllun ffurfiol ar gyfer gwireddu manteision ehangach y broses o brynu'r Maes Awyr, ond mae'r Maes Awyr yn gweithio'n agosach gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae amrywiaeth o ddatblygiadau wedi bod ynglŷn â nifer o faterion, gan gynnwys mynediad at drafnidiaeth, a mentrau twristiaeth a marchnata. Mae'r Maes Awyr hefyd wedi cymryd camau i wella ei berfformiad amgylcheddol ac i wella nifer o broblemau yn ymwneud â chydraddoldeb.

Mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad ynglŷn â’r problemau, gan gynnwys y berthynas rhwng cwmni daliannol Llywodraeth Cymru a'r cwmni sy'n gweithredu'r Maes Awyr, y gorwel cynllunio busnes, a’r gwaith o ddatblygu strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu'r Maes Awyr.