Nid yw’r Gronfa Gofal Integredig yn gwireddu ei holl botensial hyd yma

18 Gorff 2019 - 12:00yb

Mae angen gwell tystiolaeth o'r ffordd y mae’r gronfa’n gwella canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau

Ers sefydlu'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £270 miliwn hyd at fis Mawrth 2019 a dyrannu £115 miliwn pellach ar gyfer 2019-20. Mae’r adroddiad yn canfod bod y gronfa wedi cefnogi gwaith partneriaeth gwell. Ond, er gwaethaf rhai enghreifftiau cadarnhaol, nid yw ei heffaith gyffredinol o ran gwella canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau’n glir o hyd.

Nod y Gronfa Gofal Integredig yw annog a galluogi gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, y trydydd sector a darparwyr annibynnol i weithio mewn ffordd integredig. Mae Llywodraeth Cymru’n dosbarthu’r gronfa i saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n cwmpasu’r un ardaloedd daearyddol â saith bwrdd iechyd Cymru. Mae’r prosiectau a ariennir yn cynorthwyo pobl o wahanol oedran a chanddynt anghenion amrywiol sy’n aml yn gymhleth. Gall y gronfa gefnogi mentrau newydd, neu estyn mentrau sy’n bodoli eisoes i ardal ehangach, gyda’r bwriad o brif-ffrydio mentrau llwyddiannus i fusnes craidd sefydliadau.

Er bod y gronfa wedi cefnogi camau i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well, daw’r adroddiad i’r casgliad nad oes llawer o dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif-ffrydio i’r cyllidebau craidd hyd yma. O blith yr arweinwyr prosiectau a holwyd, dywedodd 75% ohonynt eu bod yn wynebu heriau o ran prif-ffrydio eu prosiectau. Mae’r adroddiad hefyd yn canfod nad yw Llywodraeth Cymru wedi pennu unrhyw ddisgwyliadau penodol o ran sut i gasglu gwybodaeth am ganlyniadau. Er bod 87% o aelodau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a 91% o’r arweinwyr prosiectau a holwyd yn cytuno bod y prosiectau a ariennir yn gwneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau, mae Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cydnabod bod angen cryfhau’r broses o adrodd am ganlyniadau, ac mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu comisiynu gwaith gwerthuso ehangach.

Mae’r adroddiad yn pennu cyfleoedd i wella’r ffordd y cafodd y gronfa ei rheoli ac mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gydweithio â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol lle bo’n berthnasol, o ran y meysydd a ganlyn:

  • Prydlondeb o ran cyhoeddi canllawiau a gwneud penderfyniadau;
  • Adolygu’r cronfeydd tymor byr lluosog sydd ar gael ar gyfer sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a thai;
  • Trefniadau llywodraethu a chraffu;
  • Mesur canlyniadau a monitro prosiectau’n gyffredinol;
  • Rhannu’r hyn a ddysgir a phrif-ffrydio prosiectau.

Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Mae’r Gronfa Gofal Integredig wedi ysgogi partneriaid i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ac mae’r astudiaethau achos cadarnhaol a bennwyd gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn galonogol. Fodd bynnag, mae agweddau ar y ffordd y cafodd y gronfa ei rheoli ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel prosiectau wedi cyfyngu ar ei photensial hyd yma. Wrth i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, mae gwersi i’w dysgu ar gyfer y ffrwd ariannu hon ac eraill i wneud pethau’n iawn o’r dechrau’n deg: nodi’r disgwyliadau’n glir; darparu canllawiau amserol a gorwelion cynllunio priodol; a rhoi trefniadau monitro effeithiol ar waith.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymateb i rai o’r materion a godwyd tra roedd fy ngwaith yn mynd rhagddo. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati nawr i gydweithio â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gytuno ar ddull o gasglu gwell tystiolaeth o effaith gyffredinol y gronfa ar ddefnyddwyr gwasanaethau ac i fynd i’r afael â’m hargymhellion ehangach.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

  • Yn ystod blwyddyn gyntaf y gronfa (2014-15), roedd Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl hŷn ac ar helpu i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty neu dderbyniadau amhriodol i ofal preswyl. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar atal oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty ac ar leihau’r cyfraddau oedi wrth drosglwyddo gofal. Ar ôl darparu rhywfaint o gyllid parhaus yn 2015-16, estynnodd Llywodraeth Cymru gwmpas y gronfa. Erbyn hyn mae'n cynnwys: plant ac oedolion ag anghenion cymhleth; plant ac oedolion ag anableddau dysgu; y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig; gofalwyr (o bob oed); System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru; a phlant sydd mewn perygl o dderbyn gofal, plant sydd mewn gofal, neu blant sydd wedi’u mabwysiadu.
  • Fel rhan o’u cyfrifoldebau ehangach, rhaid i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sicrhau bod sefydliadau sy’n bartneriaid yn cydweithio’n effeithiol i bennu anghenion poblogaeth y rhanbarth (asesiad o’r boblogaeth) o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Pan grëwyd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o dan y Ddeddf, bu iddynt ddisodli’r saith fforwm partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn bodoli eisoes, gan roi sail statudol i’r trefniadau partneriaeth hyn.
  • Mae’r adroddiad yn pwyso a mesur a yw’r gronfa’n cael ei defnyddio’n effeithiol i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy sy’n cyflawni gwell canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae’n canolbwyntio ar ystyried a yw Llywodraeth Cymru’n rheoli’r gronfa’n effeithiol i gyflawni ei hamcanion, ac ar ddod i wybod a yw’r byrddau partneriaeth yn dangos eu bod yn defnyddio’r gronfa’n effeithiol. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried a yw’r prosiectau a gefnogir gan y gronfa’n gwneud gwahaniaeth amlwg ar lefel leol.
  • Astudiaethau achos: Ceir enghreifftiau o'r prosiectau a ariannwyd yn Arddangosyn 2, tudalennau 8-10. Ceir enghreifftiau o effeithiau cadarnhaol prosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Gofal Integredig yn Arddangosyn 10 ar dudalen 49. Ceir mwy o wybodaeth yn adroddiadau blynyddol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Cyhoeddwyd llawer ohonynt, ond nid pob un, ar eu gwefannau.
  • Canlyniadau’r arolwg: Rhestrir prif ganfyddiadau ein harolygon ymhlith aelodau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac arweinwyr prosiectau yn Atodiad 5, tudalennau 59 a 60 o’r adroddiad.
  • Llefarwyr: Mae llefarwyr Cymraeg a Saesneg ar gael os gofynnir amdanynt.
  • Archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus datganoledig Cymru yw’r Archwilydd Cyffredinol. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo rhannau o’r arian hwn i Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw’r Cynulliad Cenedlaethol na’r llywodraeth yn cyfarwyddo nac yn rheoli ei waith.
  • Corff corfforaethol a chanddo Fwrdd o naw aelod statudol yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau.