Y Fframwaith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn sicrhau gwelliannau, ond mae angen gwneud mwy o gynnydd

13 Meh 2013 - 12:00yb

Mae rhoi'r Fframwaith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) ar waith wedi sicrhau rhai gwelliannau, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru ac mae'r cynnydd cyfyngedig wrth fynd i'r afael ag ôl-groniad o heriau ynghy

Pan fo rhywun yn gymwys i gael GIP, mae'r GIG yn ariannu'r pecyn llawn o iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ffioedd cartrefi gofal. I rai, gall penderfyniad eu bod yn anghymwys i gael GIP gael effaith ariannol sylweddol arnynt - yn dibynnu ar eu hincwm, eu cynilion a'u hasedau cyfalaf, efallai y bydd rhaid iddynt dalu am unrhyw ofal a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol, megis gofal personol a llety mewn cartref gofal.

Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith diwygiedig ar gyfer GIP sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer oedolion a dyletswyddau Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Daeth adroddiad heddiw i'r casgliad bod y Fframwaith wedi arwain at amryw o welliannau yn y ffordd mae cymhwysedd i gael GIP yn cael ei bennu ond, mewn sawl maes, gwelwyd bod modd gwella'r Fframwaith a monitro ei effaith yn fwy trylwyr. Nid yw rhai agweddau ar y Fframwaith yn ddigon clir ac mae angen canllawiau mwy penodol mewn rhai meysydd, megis sut mae pobl ag anabledd dysgu'n cael eu hasesu.

Datganiadau i'r wasg

Mae rhoi'r Fframwaith ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) ar waith wedi sicrhau rhai gwelliannau, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru ac mae'r cynnydd cyfyngedig wrth fynd i'r afael ag ôl-groniad o heriau ynghylch cymhwysedd i gael GIP yn parhau i beri pryder, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Pan fo rhywun yn gymwys i gael GIP, mae'r GIG yn ariannu'r pecyn llawn o iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ffioedd cartrefi gofal. I rai, gall penderfyniad eu bod yn anghymwys i gael GIP gael effaith ariannol sylweddol arnynt - yn dibynnu ar eu hincwm, eu cynilion a'u hasedau cyfalaf, efallai y bydd rhaid iddynt dalu am unrhyw ofal a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol, megis gofal personol a llety mewn cartref gofal.

Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith diwygiedig ar gyfer GIP sy'n amlinellu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer oedolion a dyletswyddau Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Daeth adroddiad heddiw i'r casgliad bod y Fframwaith wedi arwain at amryw o welliannau yn y ffordd mae cymhwysedd i gael GIP yn cael ei bennu ond, mewn sawl maes, gwelwyd bod modd gwella'r Fframwaith a monitro ei effaith yn fwy trylwyr. Nid yw rhai agweddau ar y Fframwaith yn ddigon clir ac mae angen canllawiau mwy penodol mewn rhai meysydd, megis sut mae pobl ag anabledd dysgu'n cael eu hasesu.

Mae'r gwaith o ariannu GIP yn rhoi pwysau sylweddol ar wariant y GIG yng Nghymru - gwariant a gododd o £66 miliwn yn 2004-05 i £295 miliwn yn 2010-11, cyn gostwng am y tro cyntaf i £278 miliwn yn 2011-12. Nid yw'n glir i ba raddau y mae'r Fframwaith neu'r ffordd y mae'r Fframwaith wedi'i roi ar waith wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn gwariant ers 2010-11. Y rheswm am hyn yw bod o leiaf rhywfaint o'r gostyngiad yn debygol o adlewyrchu datblygiadau eraill, gan gynnwys y £37.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru tuag at foderneiddio gwasanaethau gofal cymhleth.

Mae trefniadau lleol ar gyfer rhoi'r Fframwaith ar waith yn amrywio o fewn a rhwng Byrddau Iechyd, ac nid ydynt bob amser yn bodloni'r gofynion a amlinellir yn y Fframwaith mewn amryw o feysydd pwysig. Mae effeithiolrwydd cydweithio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio'n fawr, o 'cadarnhaol ac adeiladol' i 'anodd'. Mae i ba raddau y mae unigolion a'u teuluoedd yn rhan o'r broses GIP yn amrywio hefyd.

Mae'r adroddiad hefyd yn bryderus bod GIG Cymru wedi cael trafferth mynd i'r afael â nifer fawr o ôl-hawliadau sy'n herio a ddylai rhywun fod wedi derbyn GIP yn y gorffennol. Mae'r hawliadau'n cael eu prosesu gan brosiect cenedlaethol neu Fyrddau Iechyd unigol, yn dibynnu ar ddyddiad cyflwyno'r hawliad. Ychydig iawn o gynnydd mae'r prosiect cenedlaethol wedi'i wneud ac, er gwaethaf cyllid ychwanegol, mae yna risg sylweddol na fydd yr holl hawliadau'n cael eu clirio erbyn y dyddiad terfyn ym mis Mehefin 2014. Nid oes dyddiad terfyn ar gyfer yr hawliadau sy'n cael eu trafod gan Fyrddau Iechyd unigol, ond nid oes gan y Byrddau Iechyd broses gyffredin o fynd i'r afael â'r hawliadau hyn ac, erbyn mis Medi 2012, dim ond 13 y cant o'r 1,264 o ôl-hawliadau ac achosion o anghydfod a oedd wedi'u datrys.

Mae methu â mynd i'r afael ag ôl-hawliadau'n brydlon yn annheg ar yr unigolion dan sylw. Mae llawer o'r ôl-hawliadau sy'n dal i gael eu trafod gan y prosiect cenedlaethol yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer ac, o ystyried yr amserlenni perthnasol, mae mwy na phedwar o bob pum achos yn cael eu cyflwyno gan aelodau o'r teulu ar ran perthynas sydd wedi marw.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  •  gwella ei chanllawiau a gweithio gyda Byrddau Iechyd i ddatblygu protocolau a dogfennau cenedlaethol;
  •  cryfhau'r arweinyddiaeth ar gyfer GIP ar lefel genedlaethol ac o fewn Byrddau Iechyd;
  • cyflwyno adolygiadau gan gymheiriaid rhwng Byrddau Iechyd i helpu i sicrhau bod y Fframwaith yn cael ei ddehongli a'i roi ar waith yn gyson; a
  •  sefydlu grwp gweithredol, a gadeirir gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd, i sicrhau bod pob ôl-hawliad yn cael ei brosesu'n effeithlon, yn brydlon ac yn gyson.

Mae adroddiad heddiw hefyd yn cyflwyno rhestr wirio hunanasesu a gwella a ddatblygwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n orfodol i bob Bwrdd Iechyd ei defnyddio.

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:

'Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn hollbwysig er mwyn diwallu anghenion nifer cynyddol o bobl agored i niwed. Mae'n bosibl y bydd yna oblygiadau ariannol sylweddol i'r rhai ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol ond yr ystyrir nad ydynt yn gymwys i gael GIP, felly mae'n hollbwysig bod pobl yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyson wrth ystyried eu cymhwysedd i gael GIP. Er bod y Fframwaith diwygiedig wedi helpu yn hyn o beth, mae angen gwneud mwy ac mae angen gweithio'n gynt i glirio'r ôl-hawliadau a'r achosion o anghydfod yn erbyn penderfyniadau sydd wedi pentyrru.'

Nodiadau i Olygyddion:

  •  Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hyrwyddo gwelliant fel bod pobl Cymru'n elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn briodol sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae wedi ymrwymo hefyd i nodi a lledaenu arferion da ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  •  Pecyn o ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu anghenion iechyd corfforol a meddyliol a gofal personol unigolyn yw GIP. Mae'n ofal hirdymor fel arfer, er y gall fod yn gyfnodol yn achos rhai sy'n symud i mewn ac allan o fod yn gymwys. Ar 31 Mawrth 2012, roedd 5,447 o bobl o bob cwr o Gymru yn derbyn GIP, sy'n gyfystyr â phump y cant o gostau gweithredu'r Byrddau Iechyd.
  •  Pan fo rhywun yn gymwys i gael GIP, mae'r GIG yn gyfrifol am ariannu'r pecyn llawn o iechyd a gofal cymdeithasol. Os yw'r unigolyn yn byw gartref, bydd y GIG yn talu am ofal iechyd a gofal cymdeithasol, ond nid yw hyn yn cynnwys costau bwyd, llety neu gymorth cartref cyffredinol. Os bydd unigolyn yn gymwys i gael GIP a'i fod mewn cartref gofal, bydd y GIG yn talu ffioedd y cartref gofal, gan gynnwys costau bwyd a llety.
  •  Hyd yn oed os bydd unigolyn yn gymwys i gael GIP, bydd gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau yr un fath. Mae'r rhain yn cynnwys rôl asesu ac adolygu, darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol a chymorth i gynhalwyr a diwallu anghenion tai ac addysgol.
  •  Hyd yn oed os nad yw unigolyn yn gymwys i gael GIP, gall fanteisio yr un fath ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hyn gynnwys y GIG yn talu am elfen nyrsio'r gofal a ddarperir i rywun mewn cartref gofal, sef Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Nododd Byrddau Iechyd fod 5,887 o bobl o bob cwr o Gymru yn derbyn Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG ar 31 Mawrth 2012. Fodd bynnag, ar gyfer unrhyw ofal a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol, megis gofal personol a llety mewn cartref gofal, efallai y codir tâl yn dibynnu ar incwm, cynilion ac asedau cyfalaf yr unigolyn. Felly gall penderfyniad sy'n dweud eu bod yn anghymwys i gael GIP gael effaith ariannol sylweddol ar rai, gyda chostau gofal yn cael eu talu o'u cynilion neu drwy werthu eu cartref.