Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi ysgol haf gwasanaethau cyhoeddus

20 Meh 2014 - 2:14yp

Caiff Swyddfa Archwilio Cymru ei chynrychioli’n helaeth yn Ysgol Haf Gwasanaethau Cyhoeddus Academi Cymru gyda’n harweinydd Chris Bolton yn hwyluso a Matthew Mortlock, Stephen Lisle a Sarah Utley yn mynychu'r digwyddiad fel cynrychiolwyr.

Cynhelir yr ysgol haf flynyddol eleni ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan a'r flwyddyn hon mae’n dilyn y thema ‘Ymddiriedaeth – Sylfaen Llwyddiant’. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arweinwyr a rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus ddysgu a myfyrio ar eu harweinyddiaeth eu hunain a hefyd dysgu oddi wrth bobl eraill. 

I ddarganfod mwy am yr ysgol haf [Agorir mewn ffenest newydd]