Roedd WEFO yn wynebu her enfawr i neilltuo arian yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit

31 Gorff 2018 - 3:14yp

Ond mae’r risg y bydd Cymru yn colli peth cyllid, mewn senario dim cytundeb, yn llai yn awr yn dilyn newid ym mholisi’r Trysorlys a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau cyn cyhoeddi Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol

Wynebai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) her enfawr i neilltuo holl arian cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit. Fodd bynnag, ychydig cyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol heddiw, ‘Rheoli Effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd’, ymestynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei sicrhad i ddiogelu dyraniad Cymru (a’r DU) o Gronfeydd Strwythurol Ewrop yn y cyfnod hwn o gyllideb yr UE hyd 2020.

Bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Os bydd y DU yn gadael yr UE gyda Chytundeb Ymadael, bydd Cymru yn dal i dderbyn arian o’r Cronfeydd Strwythurol nes y daw y cylch cyfredol i ben. Fodd bynnag, pe bai’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, byddai Cymru, tan yn ddiweddar, wedi bod yn ddibynnol ar sicrhad Llywodraeth y DU i ariannu prosiectau fydd wedi eu llofnodi ar adeg Brexit.

Yng ngoleuni Brexit a thelerau blaenorol sicrhad Llywodraeth y DU, roedd WEFO yn anelu at neilltuo’r cyfan o’r £2.1 biliwn o gyllid o Gronfeydd Strwythurol yr UE erbyn mis Mawrth 2019. Ond roedd yn cydnabod y byddai gwneud hynny yn her. Mae cryn berygl na fydd rhai o brosiectau arfaethedig WEFO yn llwyddo i fynd drwy’r camau cymeradwyo. Mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar allu WEFO i neilltuo arian yn cynnwys ansicrwydd ynghylch Brexit, natur anwadal y gyfradd gyfnewid a newidiadau yn yr amgylchedd economaidd. O dan delerau blaenorol y sicrhad, am bob 1% o Gronfeydd Strwythurol yr UE, fyddai heb ei neilltuo cyn Brexit, byddai Cymru yn wynebu colli tua £21 miliwn.

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y sicrhad i gwmpasu dyraniad Cymru o’r Cronfeydd Strwythurol yn y cyfnod cyllido hwn hyd 2020 yn golygu ei bod yn awr yn llai pwysig i WEFO rwymo holl arian Cymru erbyn mis Mawrth 2019. Mae union effaith y sicrhad estynedig yn destun trafodaeth ac mae’n fwriad gan Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau newydd yn fuan. Er hynny, mae’n amlwg bod y sicrhad estynedig yn lleihau’n sylweddol y risg y bydd Cymru yn colli cyllid mewn senario dim cytundeb. Mae angen ystyried ein hadroddiad ni yn y cyd-destun hwnnw. Nid yw’n glir hyd yma sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar gynlluniau blaenorol WEFO ar gyfer rhwymo cyllid erbyn mis Mawrth 2019.

Canfu’r adroddiad hwn heddiw fod WEFO wedi parhau i gynnal prosesau rhwystro a gwrthbwyso cadarn, er gwaethaf y bwriad i gyflymu’r broses o gymeradwyo prosiectau a gwariant cyn Brexit. Mae wedi cryfhau ei dull o gymeradwyo prosiectau, ac nid yw’n ymrwymo ond i’r rhai sy’n bodloni meini prawf llym ac sy’n gyson â’i blaenoriaethau strategol.

Nid yw’n glir eto beth ddaw i gymryd lle’r cronfeydd strwythurol yn dilyn Brexit, ond mae WEFO, a Llywodraeth Cymru ar raddfa ehangach, yn ceisio llywio’r ddadl. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Cronfa Rhannu Ffyniant, ond nid yw wedi nodi manylion allweddol ynghylch gwerth y gronfa na’r modd y caiff ei gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol buddsoddiad rhanbarthol ac mae arni eisiau i gyllid a rheolaeth lawn dros hyn gael eu datganoli.

Mae’r adroddiad yn nodi 7 mater allweddol i’w rheoli gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i ystyried sut y bydd modd cadw’r sgiliau a’r profiad yn WEFO yn ngoleuni unrhyw gynllun a ddaw i fodolaeth yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn dilyn Brexit. 

Meddai Anthony Barrett, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol: 

“Er bod materion manwl i’w datrys eto, mae’r perygl y byddai Cymru yn colli allan ar gronfeydd yr UE mewn senario dim cytundeb wedi lleihau gyda phenderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymestyn ei sicrhad. Er hynny, gyda Brexit ar y gorwel, mae’n naturiol fod yna ansicrwydd ynghylch cyllid i Gymru yn y dyfodol, ac mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at nifer o faterion y mae angen i WEFO a Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt dros y cyfnod hwn.”