Risgiau, heriau a chyfleoedd i lywodraeth cymru yn gysylltiedig â chaffael masnachfraint rheilffyrdd

5 Medi 2016 - 10:47yb

Penderfyniadau allweddol i'w gwneud o hyd ynghylch contract gwerth biliynau o bunnau

Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'i dull o gaffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau er mwyn iddi wireddu pob un o'r buddiannau arfaethedig yn llwyr.

Mae adroddiad heddiw, sef ‘Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd’ yn nodi'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru o ran caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau, sy'n debygol o weithredu am 15 mlynedd o 2018.

Yn 2017, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael pwerau i gaffael y fasnachfraint newydd, ar ôl cymryd y cyfrifoldeb am reoli'r fasnachfraint bresennol o ddydd i ddydd yn 2006. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caffael contract integredig yr amcangyfrifir ei fod yn werth £3.5 biliwn, a fydd yn cynnwys y fasnachfraint a'r gwaith seilwaith er mwyn cyflawni prosiect Metro De Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd contract integredig yn gwella ansawdd yn sylweddol, a fydd yn cynnwys amseroedd teithio cyflymach, gwasanaethau mwy dibynadwy a lleddfu problem gorlenwi. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cyfeirio at broblemau a oedd yn gysylltiedig â'r broses o gaffael Masnachfraint Intercity West Coast yn Lloegr yn ystod 2012 ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o hyn ac enghreifftiau eraill er mwyn sicrhau ei bod yn cael y broses gaffael yn iawn ac y gall ddangos y gwerth am arian yn glir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gynyddu ei gallu i reoli'r prosiect, gan sefydlu cwmni Trafnidiaeth Cymru a bwrdd cynghori strategol i roi cyngor ar y broses gaffael a'i rheoli. Fodd bynnag, mae penderfyniadau allweddol i'w gwneud o hyd, gan gynnwys y model gweithredol ar gyfer y gwasanaethau newydd, rhai manylion am y setliad ariannol â Llywodraeth y DU a'r dull o reoli a chaffael cerbydau. Mae gofyniad i bob trên fod yn hygyrch i bobl sy'n cael trafferth symud o gwmpas erbyn 2020.

Er gwaethaf ei phwerau cyfyngedig dros seilwaith y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn rheilffyrdd yng Nghymru gyda'r adroddiad yn nodi iddi wario tua £362 miliwn yn ystod y cyfnod o bum mlynedd rhwng mis Ebrill 2011 a mis Mawrth 2016. Mae cyfanswm o £226 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith, sy'n cynnwys arian gan yr Undeb Ewropeaidd. At hynny, gwariodd Llywodraeth Cymru £109 miliwn er mwyn ariannu 10 ‘gwasanaeth gwell’ ar lwybrau Cymru a'r Gororau. Mae costau eraill yn ymwneud â thaliadau cymell perfformiad i Trenau Arriva Cymru o dan delerau cytundeb masnachfraint Cymru a'r Gororau. Mae'r adroddiad yn nodi y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu ynghynt i atgyfnerthu trefniadau goruchwylio a threfniadau cytundebol ar gyfer prosiectau seilwaith a ariannwyd ganddi a'i bod yn atgyfnerthu trefniadau i werthuso gwerth am arian ei buddsoddiad mewn gwasanaethau trên yn well. 

Ers 2006, mae gwasanaethau ar fasnachfraint bresennol Cymru a'r Gororau wedi dangos gwelliant gyda Trenau Arriva Cymru yn cyflawni'r targedau perfformiad a bennwyd o dan gytundeb y fasnachfraint i raddau helaeth. Mae boddhad teithwyr hefyd wedi gwella mewn rhai ffyrdd, ond mae cymariaethau â chwmnïau trên eraill yn dangos perfformiad cymysg.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn rheilffyrdd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n cymryd camau priodol i ddylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau o gofio bod ei phwerau i benderfynu ar brosiectau seilwaith rheilffyrdd yn dal i fod yn gyfyngedig. Fodd bynnag, mae caffael gwasanaethau masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau ochr yn ochr â datblygu Metro De Cymru ymhellach yn mynd â Llywodraeth Cymru i dir newydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru reoli'r risgiau yn effeithiol wrth gaffael yr hyn sy'n fuddsoddiad sylweddol i Gymru a sicrhau y creffir yn fanwl ar gynnydd a phrosesau gwneud penderfyniadau er mwyn iddi sicrhau'r buddiannau y mae'n disgwyl eu cyflawni.”