Mae gwasanaethau cyflyrau cronig wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy

26 Maw 2014 - 4:35yp

Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y derbyniadau perthnasol i ysbytai, mae angen i fyrddau iechyd yng Nghymru wneud mwy i ehangu mynediad i wasanaethau cyflyrau cronig yn y gymuned yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn canolbwyntio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud i wella gwasanaethau cyflyrau cronig yng Nghymru ers cyhoeddi adroddiad blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2008.

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fwy’n hŷn.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cynnydd wedi’i wneud. Mae strategaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2008 yn darparu gweledigaeth glir ar gyfer gwella’r broses o reoli cyflyrau cronig. Mae mynediad wedi gwella ar lefel leol i raglenni addysg cleifion, sy’n helpu pobl i reoli cyflyrau hirdymor eu hunain. Mae cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cymunedol wedi cynyddu, mae mwy o nyrsys yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, ac mae cleifion yn gallu dod o hyd i wasanaethau cymunedol yn gynt. Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn wedi lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â chyflyrau cronig.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud o safbwynt datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl â chyflyrau cronig yn galonogol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i fodloni’r twf yn y galw am wasanaethau cyflyrau cronig, sy’n rhwym o ddigwydd wrth i’r boblogaeth heneiddio. Mae’n rhaid i’r Byrddau Iechyd barhau i ganolbwyntio ar addysg cleifion er mwyn sicrhau bod hunanofal yn gwella, yn ogystal â cheisio ehangu eu gwasanaethau cymunedol. I gefnogi’r gwaith hwn, mae angen gwella’r broses o gasglu gwybodaeth a data ar frys er mwyn sicrhau bod datblygiadau i wasanaethau yn cael eu cynllunio, eu monitro a’u gwerthuso’n briodol.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r meysydd lle mae angen cynnydd pellach. Mewn sawl bwrdd iechyd, nid yw’r cynlluniau sy’n nodi sut y bydd gofal yn cael ei symud o ysbytai i leoliadau cymunedol yn ddigon clir. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig ar gael yn ystod yr wythnos yn unig, ac mae angen gwella’r broses o gydgysylltu gwaith y grwpiau a thimau staff gwahanol sy’n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Mae angen gwneud mwy o waith hefyd i sefydlu’r prosesau ar gyfer nodi a chefnogi cleifion sydd â’r risg fwyaf o gael eu derbyn i’r ysbyty fel achosion heb eu cynllunio.

Mae’r adroddiad yn gofyn am wybodaeth well i gynllunio a monitro’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyflyrau cronig. Mae llawer o’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar weithgarwch ysbytai yn hytrach na gwasanaethau yn y gymuned, ac nid yw byrddau cyrff y GIG yn derbyn digon o wybodaeth i’w helpu i reoli ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cymunedol. Mae’r adroddiad yn dadlau y bydd angen i hyn newid er mwyn sicrhau bod cyrff y GIG yn deall yn well pa fath o wasanaethau sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • yr angen i fyrddau iechyd ddatblygu cynlluniau sy’n datgan yn fwy eglur sut y bydd cydbwysedd gwasanaethau yn symud tuag at wasanaethau cymunedol;
  • dull mwy systematig o nodi cleifion sydd â’r risg o gael eu derbyn i’r ysbyty fel achosion heb eu cynllunio, ar sail gwerthusiad cadarn o’r dulliau presennol;
  • cyfrifoldebau mwy eglur ar gyfer gydgysylltu’r gofal y mae cleifion â chyflyrau cronig yn ei dderbyn; a
  • gwella systemau gwybodaeth a rhannu data i gefnogi cynllunio a darparu gwasanaethau gofal yn y gymuned.