Mae diwygiadau lles yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr a thenantiaid tai cymdeithasol

7 Ion 2015 - 4:32yp

Mae Cynghorau, Cymdeithasau Tai a thenantiaid oll yn ei chael hi'n anodd ymdopi

Trawsgrifiad fideo [Word 25KB Agorir mewn ffenest newydd] (fideo yn Saesneg yn unig)

Mae'r newidiadau a wnaed i fudd-daliadau tai, a gafodd eu cyflwyno fel rhan o raglen diwygio lles Llywodraeth y DU, yn cael effaith sylweddol ar gynghorau, cymdeithasau tai a thenantiaid yng Nghymru. Mae cynghorau a chymdeithasau tai oll yn ei chael hi'n anodd cyflwyno atebion effeithiol a chynaliadwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu hwy a'u tenantiaid, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

Mae'r diwygiadau lles ac yn enwedig y newidiadau i fudd-daliadau tai yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr a thenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen i gynghorau a darparwyr tai cymdeithasol gydweithio'n agosach er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy a fydd yn lliniaru'r risgiau sy'n wynebu tenantiaid o ganlyniad i'r newidiadau hyn a'r diwygiadau eraill a gaiff eu rhoi ar waith maes o law.

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd ei rhaglen diwygio lles yn arwain at leihad o tua £1 biliwn mewn gwariant blynyddol ar fudd-dal tai yn 2013-14 a 2014-15. Er mwyn helpu i sicrhau'r arbedion hyn, mae taliadau budd-dal tai i aelwydydd ag oedolion o oedran gweithio sy'n tanfeddiannu eu cartref wedi cael eu lleihau ac mae cap ar fudd-daliadau wedi cael ei gyflwyno i gyfyngu ar faint o arian y gall pobl ei hawlio. 

Mae adroddiad heddiw wedi canfod y bydd y newidiadau a wneir wrth roi'r rhaglen diwygio lles ar waith yn effeithio ar gyfran uwch o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban. Canfu'r adroddiad hefyd fod rhai tenantiaid tai cymdeithasol yn wynebu mwy o dlodi, dyled ac allgáu, sy'n cyd-daro â'r newidiadau hyn. Mae ôl-ddyledion rhent tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cynyddu hefyd; cynyddodd nifer y tenantiaid ag ôl-ddyledion 23.3 y cant yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl i'r cymhorthdal ystafell sbâr gael ei ddiddymu ac ar ôl i'r cap ar fudd-daliadau gael ei gyflwyno. 

Mae'r adroddiad yn nodi rhai gwendidau o ran ymateb cynghorau i'r diwygiadau lles. Mae'r ffordd y mae cynghorau yn monitro ac yn gwerthuso eu cynlluniau yn anghyson iawn ac er bod awdurdodau lleol wedi nodi bod y diwygiadau lles yn peri risg sylweddol, nid ydynt bob amser yn cymryd camau cynhwysfawr i liniaru'r risg hon. 

Mae mwy o alw am gartrefi llai o faint yn sgil y penderfyniad i ddiddymu'r cymhorthdal ystafell sbâr. Fodd bynnag, ychydig o arian a fuddsoddir yn y gwaith o ddatblygu tai newydd a bydd yn cymryd amser i ddatblygu eiddo newydd. Nid yw cynghorau a chymdeithasau tai wedi gwneud fawr ddim i gynyddu eu cyflenwad o dai llai o faint, naill ai drwy adeiladu eiddo newydd neu drosi eiddo sydd ganddynt eisoes yn gartrefi llai o faint. Hyd yma, prin yw'r defnydd a wnaed o letywyr neu'r sector rhentu preifat, a chymysg yw perfformiad o ran helpu tenantiaid i gael swyddi parhaol er mwyn lleihau effaith y diwygiadau lles.

Canfu ein hadroddiad hefyd fod y diwygiadau lles i fudd-dal tai a'r penderfyniad i gyflwyno'r cap ar fudd-daliadau yn cynyddu costau i gynghorau, cymdeithasau tai a thenantiaid ac mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo arian er mwyn mwyn i’r afael â pheth o’r effaith yng Nghymru. Mae'n rhaid i landlordiaid tai cymdeithasol fuddsoddi mwy mewn costau staffio a gweinyddu er mwyn rheoli cartrefi gwag a chasglu rhent, sydd wedi dod yn brosesau mwy cymhleth ers i'r diwygiadau lles gael eu cyflwyno. Daw'r adroddiad i'r casgliad y gallai'r Credyd Cynhwysol a thaliadau uniongyrchol - sy'n golygu bod tenantiaid yn cael y budd-daliadau'n uniongyrchol yn hytrach na bod yr arian yn cael ei dalu i'w landlord - wneud y sefyllfa yn llawer gwaeth. 

Mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad ar gyfer gwella, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai cynghorau a chymdeithasau tai wella eu prosesau cynllunio strategol a chydgysylltu gweithgarwch yn well er mwyn mynd i'r afael ag effaith y diwygiadau lles ar denantiaid tai cymdeithasol.
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cyfres o safonau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gosodiadau a throsglwyddiadau er mwyn sicrhau bod tenantiaid sydd wedi colli'r cymhorthdal ystafell sbâr yn cael gwasanaeth o safon ofynnol.
  • Mae angen i gynghorau atgyfnerthu'r ffordd y maent yn rheoli risgiau'r diwygiadau lles drwy greu un dull corfforaethol sy'n cydgysylltu gweithgarwch ar draws y cyngor a gwaith gan eraill. 
  • Dylai pob darparwr tai cymdeithasol ymgysylltu'n well â thenantiaid sydd wedi colli'r cymhorthdal ystafell sbâr.