Mae cynghorau yng Nghymru wedi ymateb yn dda i bwysau ariannol sylweddol

1 Ebr 2015 - 3:28yp

Eto i gyd, mae angen iddynt wella eu prosesau rheoli a chynllunio ariannol er mwyn ateb yr heriau ariannol cynyddol sydd i ddod.

Mae cynghorau yng Nghymru o dan bwysau ariannol difrifol ac maent wedi bod yn mynd ati i ateb yr her a wynebir ganddynt. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd cynghorau yn wynebu pwysau ariannol cynyddol a bydd angen iddynt wella eu prosesau rheoli a chynllunio ariannol strategol. Dyma brif gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n edrych ar gydnerthedd ariannol cynghorau yng Nghymru.   

 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Mae cynghorau yng Nghymru yn wynebu trobwynt ariannol. Er eu bod wedi gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â rhywfaint o'r pwysau a wynebir ganddynt, mae angen iddynt bellach atgyfnerthu eu prosesau cynllunio a rheoli ariannol strategol a diwygio eu strwythurau darparu gwasanaethau. Os nad ydynt yn derbyn bod angen iddynt drawsnewid, ni fydd eu trefniadau rheoli ariannol yn addas at y diben i ateb yr heriau ariannol cynyddol a wynebir ganddynt yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn ystyried perfformiad ariannol presennol y 22 o gynghorau yng Nghymru a'u gallu i ateb heriau ariannol y dyfodol. Ystyria ansawdd trefniadau rheoli ariannol, gan ganolbwyntio ar y ffordd y mae pob awdurdod lleol yn cynllunio ei ymrwymiadau cyllidebol ac yna'n eu cyflawni. Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar waith Grant Thornton ar gynghorau yn Lloegr yn 2013-14, gan wneud cymariaethau a nodi gwersi er mwyn helpu cynghorau yng Nghymru i wella eu cydnerthedd ariannol yn y dyfodol. 

 

Er bod y rhan fwyaf o gynghorau yn pennu amcanion corfforaethol clir, nododd yr adroddiad a gyhoeddir heddiw fod angen iddynt sicrhau bod eu cynlluniau ariannol a'u cynlluniau gwasanaeth tymor canolig wedi'u cydgysylltu digon i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Yn y rhan fwyaf o'r meysydd allweddol a adolygwyd, mae'r adroddiad yn nodi, heb welliannau, nad yw'n debygol y bydd trefniadau cynllunio a oedd yn arfer bod yn ddigon da yn gallu ymdrin â'r pwysau ariannol cynyddol y bydd cynghorau yn eu hwynebu yn y dyfodol.

 

Mae'r lefel gyffredinol o gronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau wedi parhau i dyfu, sy'n awgrymu bod cynghorau yng Nghymru yn llwyddo i gyflawni gwarged er gwaethaf yr heriau ariannol a wynebir ganddynt. Rhydd y fath warged gyfle i gynghorau greu clustog ariannol, yn ogystal â buddsoddi yn y gwaith o drawsnewid gwasanaethau yn ogystal â chefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau lleol. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hwn heddiw yn tynnu sylw at bryderon y caiff rhai cynghorau, heb strategaeth glir o ran defnyddio cronfeydd wrth gefn, eu beirniadu am gronni arian heb ddiben clir na chytûn.

 

Mae prosesau a rheolaethau ariannol yn gadarn yn y rhan fwyaf o gynghorau, sy'n cynnig sylfaen dda i gynghorau adeiladu arno er mwyn ymdrin â phwysau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen i lawer o awdurdodau lleol wella eu prosesau o ran pennu a monitro'r gyllideb a gwneud mwy i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i gynhyrchu incwm. Hefyd, mae angen iddynt sicrhau bod gan y tîm cyllid ddigon o allu ac adnoddau i ateb yr heriau sydd i ddod.

 

Er bod trefniadau llywodraethu ariannol cynghorau yn foddhaol ar y cyfan, nodwyd meysydd gwan a oedd yn cynnwys monitro cynlluniau arbed ac atebolrwydd am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Mae'r adroddiad hefyd yn dod i'r casgliad fod y pwysau sylweddol a roddir ar drefniadau ariannol cynghorau yng Nghymru yn golygu na fydd y trefniadau rheoli hynny a oedd yn arfer bod yn ddigon da yn dal i fod yn addas at y diben nes iddynt esblygu gryn dipyn.

 

At ei gilydd, mae'r adroddiad yn gwneud naw argymhelliad ar gyfer gwella, gan gynnwys y canlynol:

  • cynghorau i sicrhau bod eu cynlluniau corfforaethol yn cynnal blaenolwg 3-5 mlynedd sy'n unol â'r cynllun ariannol tymor canolig a strategaethau ategol;
  • dylai cynlluniau ariannol tymor canolig awdurdodau lleol nodi'r prif risgiau ariannol a dylent fod yn destun craffu effeithiol gan uwch swyddogion a chynghorwyr cyn iddynt gael eu mabwysiadu;
  • dylai awdurdodau lleol adolygu eu timau cyllid er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o allu ac adnoddau i fodloni gofynion yn y dyfodol; a
  • dylai cynghorau ddatblygu strategaethau cynhwysfawr ar gyfer cronfeydd wrth gefn sy'n amlinellu diben penodol cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio fel rhan o'r cynlluniau ariannol