Mae angen i’r sector cyhoeddus yng Nghymru newid ei ffocws i gynnal annibyniaeth pobl hŷn

15 Hyd 2015 - 8:38yb

Mae llawer o wasanaethau ataliol yn cael eu tanbrisio gan godi pryderon y bydd y galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn parhau i gynyddu

Mae arweinyddiaeth a strategaethau Cynghorau yng Nghymru yn methu cydnabod bob amser y rôl bwysig sydd gan wasanaethau y tu allan i’r sector iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol o ran cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl hŷn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Canfu’r adroddiad, sy’n seiliedig ar astudiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda chymorth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, er bod cynghorau wedi adnabod annibyniaeth pobl hŷn fel blaenoriaeth, nad yw eu strategaethau a’u cynlluniau wastad yn cydnabod y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bartneriaid a llawer o wasanaethau y tu allan i’r sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a allai leihau’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol drud.

Cafodd yr astudiaeth ei hategu gan arolwg dinasyddion ar lefel Cymru gyfan a oedd yn gofyn i bobl roi sgôr i wasanaethau i ddynodi pa rai oedd bwysicaf iddynt o ran eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth. Nodwyd fod llawer o wasanaethau cyngor a gwybodaeth ataliol, gwasanaethau cymorth ymarferol, gwasanaethau tai a gwasanaethau seiliedig-ar-dai yn ogystal â chyfleusterau cymunedol wedi profi toriadau sylweddol yn eu cyllidebau dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys pedwar o’r pum gwasanaeth ataliol a werthfawrogir yn fwyaf gan y rhai a gwblhaodd yr arolwg o ran cynnal eu hannibyniaeth. Canfu’r arolwg hefyd fod llawer o ddinasyddion hŷn yr ymgysylltwyd â hwy (97%) yn ymwybodol o’r angen i wneud arbedion, ond bod dros hanner heb ymwybyddiaeth ble y byddai toriadau’n cael eu gwneud a heb gael eu hysbysu sut y byddai’n effeithio arnynt.

Canfu’r astudiaeth fod toriadau i wasanaethau allweddol yn groes i rai o’r blaenoriaethau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac sy’n hybu gwasanaethau atal ar lefel is fel modd i leihau’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol dwys iawn a hynod gostus. Mae’r adroddiad yn nodi y bydd effaith y cyni cyllidol a’r gofynion sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru yn gwneud yr her o ran darparu gwasanaethau ataliol yn anos.

Ar y cyfan mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ar gyfer gwella; pump ar gyfer cynghorau yng Nghymru ac un yn benodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bod Cynghorau yn ailalinio gwaith cydgysylltwyr strategaethau pobl hŷn i roi cymorth i ddatblygu a chyflawni cynlluniau ar gyfer gwasanaethau sy’n cyfrannu at annibyniaeth pobl hŷn;
  • Gwella’r modd yr ymgysylltir â phobl hŷn ac y darperir gwybodaeth ar eu cyfer; a
  • Chynllunio strategol gwell a mynd ati’n well i gydgysylltu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys rhestr wirio hunanasesu i gynghorau ei defnyddio i ganolbwyntio ar y meysydd lle mae angen iddynt wella’u gwasanaethau presennol.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

“Mae’n bwysig bod y canfyddiad mai derbynwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw pobl hŷn yn bennaf yn un sy’n cael ei herio. Fel y mae’r adroddiad hwn yn datgan, ceir anghydbwysedd o ran y pwyslais yr ydym yn ei roi ar atal ac yn unol â’m hargymhellion byddwn yn awyddus i weld hyn yn cael sylw er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gynnal eu hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio.”

Ychwanegodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Os byddwn yn parhau i gwtogi ar wariant ar wasanaethau ataliol yna byddwn yn parhau i ynysu ein pobl hŷn. Mae angen inni alluogi ein pobl hŷn a symud y ddibyniaeth oddi wrth wasanaethau gofal a bwrw golwg fwy manwl ar werth gwasanaethau sy’n cynnal annibyniaeth ac yn hybu lles. I wneud hynny mae angen i gynghorau yng Nghymru wella’r modd y maent yn siarad gyda phobl hŷn, yn casglu’r wybodaeth gywir ac yna’n darparu gwasanaethau’n seiliedig ar anghenion presennol yn hytrach na’r galw yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Imelda Richardson,  Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru:

“Y llynedd, fel un o’r argymhellion yn ein hadolygiad o gomisiynu, fe ddisgrifion ni’r angen i awdurdodau lleol roi ystyriaeth ofalus i’r cyfraniad y mae gwasanaethau cymunedol yn ei wneud i les trigolion fel rhan o’u gwaith i gynllunio gwasanaethau. Mae’r adroddiad newydd hwn yn atgoffa awdurdodau lleol eto pa mor bwysig yw’r gwasanaethau hyn o ran cynorthwyo pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Nid yn unig maen nhw’n gwella lles pobl hŷn yn fawr, ond gan fod her fawr yn wynebu awdurdodau lleol o ran gwneud arbedion yn eu cyllidebau, gall y gwasanaethau hyn arbed arian yn y tymor hir.”