Gynllun amaeth-amgylchedd wedi dysgu gwersi o gynlluniau blaenorol

11 Medi 2014 - 9:00yb

Ond mae gan Glastir rai diffygion o hyd, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae'r ffordd y cafodd Glastir, cynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cymru ei lunio a'i weithredu, wedi adlewyrchu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau tebyg a gynhaliwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae gan y cynllun rai diffygion sylweddol o hyd. Dyna brif gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Mae Glastir wedi adlewyrchu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol. Fodd bynnag, fel y dengys fy adroddiad a chanfyddiadau adolygiadau blaenorol o'r cynllun, mae modd gwella cynllun Glastir a'r modd y caiff ei weinyddu. Mae'r nifer sydd wedi gwneud cais i ymuno â Glastir yn llawer llai na'r hyn a ragwelwyd gan Lywodraeth Cymru ac nid yw mesurau i helpu i werthuso llwyddiant cyffredinol y cynllun wedi cael eu datblygu eto.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno Glastir ym mis Mai 2009. Roedd Glastir yn cymryd lle Tir Gofal a sawl cynllun amaeth-amgylchedd arall a gynhaliwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Erbyn diwedd 2015, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu gwneud taliadau grant gwerth £119 miliwn o dan Glastir, gan gynnwys £65 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed yr adroddiad heddiw i'r broses o gyflwyno Glastir gael ei rheoli'n well na'r newid i gynlluniau amaeth-amgylchedd eraill. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu tirddeiliaid sydd â chytundeb Tir Gofal, gan gynnwys proses bontio ddi-dor iddynt a chyfle i ymuno â Glastir drwy lwybr carlam. Mae Glastir hefyd wedi'i dargedu ac wedi'i flaenoriaethu'n well na chynlluniau blaenorol er mwyn helpu i sicrhau'r cyfraniad mwyaf o'r arian grant tuag at amcanion polisi allweddol ac mae wedi ymestyn cwmpas cynlluniau amaeth-amgylchedd ar dir comin yn sylweddol.

Fodd bynnag, mae gan gynllun Glastir rai o ddiffygion y cynlluniau blaenorol ac ni chafodd ei lywio gan ddealltwriaeth dda o ganlyniadau'r cynlluniau hynny. Mae rhywfaint o risg o hyd na fydd taliadau Glastir yn cyflawni'r gwelliannau a fwriedir am nad yw tirddeiliaid yn newid eu harferion rheoli, ond mae'r risg hon yn llai nag yr oedd o dan gynlluniau blaenorol. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion i symleiddio agweddau ar y cynllun ac mae wedi cydnabod bod lle i gydgysylltu gwelliannau amgylcheddol rhwng tirddeiliaid yn well.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi atgyfnerthu ei threfniadau ar gyfer gweinyddu Glastir ac mae rhywfaint o dystiolaeth o arbedion effeithlonrwydd o gymharu â chynlluniau blaenorol. Fodd bynnag, mae gwelliannau i systemau cyfrifiadurol wedi costio £1 filiwn yn fwy na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, mae cyfyngiadau ar adnoddau wedi llesteirio'r broses o weithredu elfennau o'r cynllun yn effeithiol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y ffordd roedd yn cyfathrebu ynglŷn â'r cynllun yn annigonol.

Mae nifer y rhai sy'n cymryd rhan yn Glastir dipyn yn is na'r targedau a bennwyd ar gyfer y cynllun gan Lywodraeth Cymru, yr oedd rhai ohonynt wedi'u seilio ar dybiaethau afrealistig. O ganlyniad, mae lefel y gwariant ar y cynllun hefyd wedi bod yn sylweddol is na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, er mwyn gwella'r ffordd y caiff Glastir ei reoli a'i weinyddu o ran materion yn cynnwys:

  • Sicrhau bod tirddeiliaid sy'n cael arian grant yn ymrwymo i wneud newidiadau sylweddol i'w harferion rheoli tir sy'n helpu'n uniongyrchol i gyflawni amcanion Glastir.
  • Pennu targedau ar gyfer Glastir sy'n heriol ond yn gyflawnadwy.
  • Egluro maint y gwelliannu y mae'n disgwyl i Glastir eu sicrhau, erbyn pryd a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at amcanion ehangach.
  • Monitro costau gweinyddu Glastir yn rheolaidd.
  • Sicrhau cyfnod pontio didrafferth i geisiadau ar-lein yn unig i Glastir.