Gweithredu anghyfreithlon mewn Cyngor Tref

19 Meh 2019 - 9:51yb

Methiannau o ran gwneud penderfyniadau a rheolaeth fewnol yn y Cyngor Tref yn arwain at golled o £234,000

Mae Cyngor Tref Cei Connah wedi gweld diffyg cronnus o dros £234,000 yng ngweithrediad y Quay Café ers 2011, yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw (19 Mehefin 2019). Mae’r adroddiad yn datgan na roddodd y cyngor ystyriaeth briodol i’r pwerau a oedd ganddo i agor y Quay Café, roedd y penderfyniad wedi’i seilio ar gynllun busnes a oedd wedi'i baratoi'n wael, ac o ganlyniad i hyn, roedd y penderfyniad i agor y caffi yn anghyfreithlon.

Cafodd adroddiad heddiw ei gyhoeddi er budd y cyhoedd i dynnu sylw at ddiffyg ariannol sylweddol a ysgwyddwyd gan y Cyngor a methiannau’r Cyngor i wneud penderfyniadau. Mae'r adroddiad yn gwneud tri argymhelliad clir i'r cyngor, sef:

  • Cynnal gwerthusiad llawn o'r dewisiadau ar gyfer gweithredu’r Quay Café, gan ymgorffori arfarniad ariannol llawn o bob dewis;
  • Sicrhau y ceir cyngor priodol cyn gwneud penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau newydd neu arloesol; 
  • Adolygu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu a sicrhau eu bod yn deall y sail statudol ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny.

Mae gan Gyngor Tref Cei Connah fis i ystyried y materion a godwyd yn yr adroddiad a phenderfynu a ddylid derbyn yr argymhellion hyn.

Cyhoeddir yr adroddiad hwn law yn llaw ag adroddiadau er budd y cyhoedd ar gyfer Cyngor Tref Glyn-nedd, Cyngor Cymuned Maenclochog a Chyngor Cymuned Cynwyd. Mae’r adroddiadau’n cyflwyno methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a diffygion o ran rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol yn y pedwar cyngor.

Dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:

"O ystyried maint y diffyg ariannol a ysgwyddwyd gan Gyngor Tref Cei Connah, rwyf i o’r farn ei bod yn bwysig bod gan y cyhoedd ymwybyddiaeth lawn a phriodol o'r digwyddiadau sy'n ymwneud â'r Cyngor. Pan agorodd y caffi, nid oedd gan y Cyngor yr awdurdod statudol i wneud hynny ac nid oedd ei benderfyniad wedi’i gefnogi gan gynllun busnes clir a chydlynol. O ganlyniad i hyn, roedd y penderfyniad, yn fy marn i, yn anghyfreithlon.

"Mae gwersi i'w dysgu nid yn unig gan y Cyngor hwn, ond gan bob cyngor cymuned a thref yng Nghymru. Diben yr adroddiadau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd heddiw yw tynnu sylw at y diffygion mewn pedwar gwahanol gyngor cymuned a thref. Mae angen i gynghorau fod yn arloesol wrth ymdrin â materion cymunedol, ond mae’n rhaid iddyn nhw arddangos rheolaeth risg briodol bob amser a gweithredu o fewn eu fframwaith cyfreithiol.

"Mae gan y pedwar cyngor bellach gyfle i ddangos bod y risg y bydd methiannau llywodraethu o'r math yn digwydd eto wedi’i lleihau gymaint â phosibl. Mae angen rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod gan gynghorau cymuned a thref drefniadau llywodraethu priodol ar waith i reoli gweithgareddau'r cyngor yn weinyddol ac yn ariannol."

Diwedd

Nodiadau i’r Golygwyr:

  • Wrth weithredu o dan drefniadau dirprwyedig ac ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn o dan adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  • Mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol ystyried a ddylid cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd ar unrhyw fater arwyddocaol sy'n dod i'w sylw ef neu hi yn ystod archwiliad, a'i ddwyn i sylw'r corff sy'n cael ei archwilio a'r cyhoedd.
  • Mae'n rhoi cyfle i'r Cyngor egluro'r camau pwysig y mae wedi'u cymryd i wella trefniadau ac i sicrhau bod y risg y bydd methiannau o'r math hwn yn digwydd eto mor isel â phosibl.
  • Ar ôl cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried yr adroddiad mewn cyfarfod llawn y Cyngor o fewn mis i'r dyddiad cyhoeddi. Yn y cyfarfod, mae’n rhaid i'r Cyngor benderfynu a yw’r adroddiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau gweithredu; a ddylid derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad; a pha gamau gweithredu (os o gwbl) i'w cymryd mewn ymateb i'r adroddiad a'r argymhellion.