Gwasanaethau orthopedeg yn fwy effeithlon ac amseroedd aros yn fyrrach na degawd yn ôl

25 Meh 2015 - 4:20yp

Ond mae perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros wedi dirywio yn ddiweddar, ac mae angen cynlluniau mwy cynaliadwy i ateb y galw cynyddol am wasanaethau 

Trawsgrifiad Cymraeg  - fideo yn Saesneg yn unig [Word 13KB Agorir mewn ffenest newydd]

Mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i’r casgliad bod gwasanaethau orthopedeg wedi dod yn fwy effeithlon dros y degawd diwethaf, ond nid yw GIG Cymru mewn sefyllfa i ateb y galw i’r dyfodol. Y rheswm am hyn yw ei fod wedi canolbwyntio ar leihau amseroedd aros yn y tymor byr, gan roi llai o sylw i ddatblygu atebion hirdymor cynaliadwy i ateb y galw am wasanaethau.

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

Er gwaethaf gwelliannau yn y ffordd mae gwasanaethau orthopedeg yn cael eu darparu yng Nghymru, mae mwy o waith i’w wneud i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn. Er mwyn cael y gwerth gorau o’r buddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn gwasanaethau orthopedeg, mae angen canolbwyntio mwy ar y llwybr cyhyrysgerbydol cyflawn a chael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth gwasanaethau a chanlyniadau cleifion.

Er bod amseroedd aros am driniaeth orthopedeg wedi lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf, yn fwy diweddar mae amseroedd aros wedi bod yn cynyddu ac, fel arfer, mae pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn hirach na phobl mewn rhannau eraill o’r DU. Mae mynediad at brofion diagnostig yn cael effaith negyddol ar amseroedd aros llawer o gleifion ac mae’r ffordd mae data ar gyfer asesiad cychwynnol a thriniaeth yn cael ei gofnodi yn golygu nad yw’r ffigurau a gyhoeddir bob amser yn rhoi darlun cyflawn o amseroedd aros cleifion.

Yn ôl adroddiad heddiw, er bod nifer y gwelyau orthopedeg yn lleihau, mae byrddau iechyd yn defnyddio’r gwelyau yn fwy effeithlon, yn bennaf gan fod cleifion yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau byrrach a rhai yn cael llawdriniaeth fel cleifion allanol.

Fodd bynnag, er gwaethaf gwelliannau mewn effeithlonrwydd, mae GIG Cymru yn ei chael hi’n anodd ateb y galw am wasanaethau orthopedeg. Mae mwy a mwy o gleifion yn gorfod aros dros 26 wythnos i gael eu hapwyntiad claf allanol cyntaf ac, yn aml, erbyn i benderfyniad gael ei wneud i dderbyn claf ar gyfer llawdriniaeth orthopedeg, bydd rhwng 10 a 12 y cant o gleifion eisoes wedi aros dros 26 wythnos.

Yn 2011, cymerodd Llywodraeth Cymru y cam cadarnhaol o greu bwrdd cyflawni cenedlaethol i wella gwasanaethau orthopedeg, a, rhwng 2011 a 2014, cyflwynwyd £65 miliwn o gyllid ychwanegol i fyrddau iechyd i leihau amseroedd aros ac i ddatblygu atebion cynaliadwy ar gyfer rheoli’r galw am wasanaethau orthopedeg. Llwyddodd gwaith y bwrdd cyflawni a’r cyllid ychwanegol i wella amseroedd aros yn y tymor byr, ond nid yw’r llwyddiant hwn wedi parhau ac nid oes unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru wedi cyflawni’r targed amseroedd aros ar gyfer orthopedeg ers 2012.

Mae’r adroddiad yn nodi tystiolaeth bod byrddau iechyd yn dechrau datblygu rhaglenni ymarfer corff a ffordd o fyw sydd â’r potensial i leihau’r galw am lawdriniaeth orthopedeg, ac mae pob bwrdd iechyd wedi cyflwyno Gwasanaeth Triniaethau ac Asesiadau Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS) a ddylai helpu i atgyfeirio cleifion i’r driniaeth fwyaf priodol ar gyfer eu cyflwr. Fodd bynnag, mae angen ehangu’r gwasanaethau hyn a’u hintegreiddio’n well ag agweddau eraill ar ofal cyhyrysgerbydol.

Mae’r adroddiad yn gwneud amryw o argymhellion, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio egluro sut mae’r amser aros ar gyfer mynediad at wasanaethau asesu a thrin cyhyrysgerbydol clinigol yn cael ei fesur.
  • Dylai byrddau iechyd sicrhau bod canllawiau atgyfeirio clir yn cael eu rhoi ar waith a’u dilyn, a bod gwasanaethau amgen priodol ar gael ac yn hygyrch.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y ffactorau a arweiniodd at wendidau yn y bwrdd cyflawni yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau na fydd y gwendidau hynny yn codi yn y Rhaglen Gofal wedi’i Gynllunio newydd.
  • Dylai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cyfres o fesurau canlyniadau, a gefnogir gan systemau gwybodaeth cadarn, sy’n darparu gwybodaeth reoli gynhwysfawr am a yw gwasanaethau orthopedeg yn cyflwyno budd i gleifion ac yn lleihau niwed y mae modd ei osgoi.