Gormod o gynghorau tref a chymuned Cymru yn dal i fethu bodloni'r safonau ariannol

13 Medi 2013 - 12:00yb

Gwendidau systemig o ran rheoli ariannol a llywodraethu yn parhau, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae Archwilwyr yn dal i ganfod gwendidau cyffredin a sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sawl Cyngor Tref a Chymuned ledled Cymru.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae cyfrifon lleol yn aml yn cael eu cyflwyno'n hwyr i'w harchwilio ac mae ansawdd llawer ohonynt yn wael.

O'r herwydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu addasu'r trefniadau archwilio ar gyfer cyfrifon cynghorau lleol yn 2015-16, ac o hynny ymlaen. Datblygiad o'r dull archwilio cyfredol fydd y trefniadau newydd gan roi mwy o bwyslais ar lywodraethu ac adrodd cyhoeddus. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog y sector i ganolbwyntio mwy ar wella eu trefniadau llywodraethu a'u rheolaeth ariannol.

Mae adroddiad heddiw yn dangos bod hyd at 40 y cant o gynghorau tref a chymuned heb gyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd yn 2012; bod un o bob saith heb gyflwyno datganiad blynyddol i'w archwilio a bod un o bob deg o'r cyfrifon a gyflwynwyd angen eu cywiro.

Datganiad i'r wasg

Gwendidau systemig trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol yn parhau, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae Archwilwyr yn dal i ganfod gwendidau cyffredin a sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sawl Cyngor Tref a Chymuned ledled Cymru.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae cyfrifon lleol yn aml yn cael eu cyflwyno'n hwyr i'w harchwilio ac mae ansawdd llawer ohonynt yn wael.

O'r herwydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu addasu'r trefniadau archwilio ar gyfer cyfrifon cynghorau lleol yn 2015-16, ac o hynny ymlaen. Datblygiad o'r dull archwilio cyfredol fydd y trefniadau newydd gan roi mwy o bwyslais ar lywodraethu ac adrodd cyhoeddus. Mae'n gobeithio y bydd hyn yn annog y sector i ganolbwyntio mwy ar wella eu trefniadau llywodraethu a'u rheolaeth ariannol.

Mae adroddiad heddiw yn dangos bod hyd at 40 y cant o gynghorau tref a chymuned heb gyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd yn 2012; bod un o bob saith heb gyflwyno datganiad blynyddol i'w archwilio a bod un o bob deg o'r cyfrifon a gyflwynwyd angen eu cywiro.

Cyhoeddodd yr archwilwyr farn archwilio amodol ar 130 o gynghorau (17 y cant). Mewn geiriau eraill, roedd bron un o bob pum cyngor lleol wedi methu bodloni'r safonau llywodraethu gofynnol.
 
Dan drefniadau newydd yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, bydd archwiliadau cynghorau lleol yn cynnwys adolygiad thematig o drefniadau llywodraethu. Bydd cynghorau tref a chymuned yn cael gwybod ymlaen llaw pa feysydd penodol fydd yn rhan o'r adolygiad thematig bob blwyddyn. Bydd y trefniant hwn yn galluogi'r cynghorau i nodi meysydd lle mae angen iddynt wella'u trefniadau a gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw:

'Rwy'n poeni bod cynghorau tref a chymuned yn parhau i fethu cyhoeddi datganiad blynyddol wedi'i archwilio mewn da bryd. Yn fy marn i, mae'n annerbyniol nad yw cynghorau lleol sy'n cael eu cyllido gan arian cyhoeddus yn llwyddo i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a pharatoi datganiadau cyfrifon i'w harchwilio.
Mae nifer y barnau archwilio amodol hefyd yn rhy uchel o lawer. Dylai'r trefniadau archwilio newydd helpu cynghorau lleol i ganolbwyntio'n well ar gyflawni eu cyfrifoldebau ariannol i'r safonau sy'n ddisgwyliedig gennyf fi a phobl Cymru."

Nodiadau i Olygyddion:

  •  Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canlyniadau gwaith yr archwilwyr gyda chynghorau lleol ar gyfer cyfrifon 2011-12.
  •  Mae'n dangos diffyg gwelliant ers adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn 2009 - Cynghorau Cymuned: Llywodraethu Da - Arfer Da - a oedd yn pwysleisio'r gwendidau cyffredin yn nhrefniadau llywodraethu cynghorau tref a chymuned, ac yn nodi pedair gwers sy'n arfer da.
  •  Ym mis Chwefror 2012, roedd dogfen ymgynghori'r Archwilydd Cyffredinol - Strategaeth Gontractio ac Archwiliadau o Gynghorau Tref a Chymuned - yn pwysleisio'r pryderon hyn, ac er bod rhywfaint o gynnydd ers 2009, nid oedd gan y sector yn gyffredinol drefniadau llywodraethu effeithiol a digonol ar waith o hyd. Mae'r pryderon hyn yn parhau hyd heddiw.
  •  Mae dros 730 o gynghorau lleol yng Nghymru sy'n gwario cyfanswm o £40 miliwn a mwy o arian cyhoeddus bob blwyddyn. Daw'r arian hwn o dâl a godir yn flynyddol yn bennaf, sef praesept, a bennir gan y cyngor lleol ac a gesglir ar ei ran fel rhan o'r dreth gyngor.
  •  Mae cynghorau tref a chymuned (cynghorau lleol) yn gyrff etholedig sy'n cynrychioli eu cymunedau ac yn darparu neu'n cyfrannu at bob math o wasanaethau - er enghraifft, parciau a mannau agored, mynwentydd, rhandiroedd ac arosfannau bysiau
  •  Mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol benodi archwilwyr allanol i archwilio cyfrifon cynghorau lleol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  •  Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo mewn llywodraeth leol yw archwilwyr allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Nhw sy'n gyfrifol am archwilio'n flynyddol y rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £14 biliwn a ddyrennir yn flynyddol i Gymru gan Senedd San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r arian hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (bron £4 biliwn).
  •  Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hyrwyddo gwelliant fel bod pobl Cymru'n elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn briodol sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae wedi ymrwymo hefyd i nodi a lledaenu arferion da ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru