Cynnydd yn cael ei wneud ond newidiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ‘yn rhy araf o hyd’

17 Rhag 2015 - 11:35yb

Yr Archwilydd Cyffredinol yn annog gwasanaethau cyhoeddus i gynyddu graddfa a chyflymdra'r broses drawsnewid.

Trawsgrifiad Cymraeg  - fideo yn Saesneg yn unig [Word 12KB Agorir mewn ffenest newydd]

Mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ehangu eu gorwelion, cymryd risgiau wedi'u rheoli'n dda er mwyn arloesi a bod yn realistig er mwyn iddynt allu ymateb yn fwy effeithiol i'r heriau sy'n eu hwynebu. Mae angen iddynt hefyd ganolbwyntio ar fesur y pethau sy'n bwysig a chydweithio er mwyn rheoli effeithiau gostyngiadau yn lefelau gwasanaethau. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi'r negeseuon allweddol hyn yn ei adroddiad diweddaraf, sef Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015.

Mae adroddiad heddiw yn atgyfnerthu neges yr Archwilydd Cyffredinol bod angen i wasanaethau cyhoeddus newid yn llwyr er mwyn iddynt allu ateb yr heriau sy'n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Dengys fod Llywodraeth Cymru, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, wedi gwneud ymdrech fawr i osod y sylfeini ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Ond araf fu'r newid ar lawr gwlad. Nid yw gwasanaethau cyhoeddus eto wedi datblygu'r newid hirdymor a radical sydd ei angen er mwyn ymateb yn effeithiol i'r pwysau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu ac y byddant yn parhau i'w hwynebu.

Y pum mlynedd diwethaf fu'r cyfnod hiraf o doriadau parhaus mewn termau real ers datblygu'r wladwriaeth les fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yng Nghymru bu gostyngiad o £1.2 biliwn mewn termau real (7%) yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau datganoledig rhwng 2010-11 a 2014-15 ac mae'r adroddiad yn nodi, wrth reoli'r gostyngiad hwn, fod Cymru wedi gwneud rhai dewisiadau gwario gwahanol i rannau eraill o'r DU. Mae toriadau pellach mewn termau real a nodir yn adolygiad Llywodraeth y DU o wariant, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn golygu y bydd cyfanswm y gostyngiad yn cyfateb i £1.8 biliwn (11%) erbyn 2019-20. Ochr yn ochr â'r gostyngiadau hyn mewn gwariant, mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wynebu galw cynyddol gan boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio. 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Nid oes yr un rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi osgoi'r pwysau ariannol sydd wedi deillio o gyni cyllidol. Felly, mae'n gadarnhaol fy mod yn gallu nodi, er gwaethaf y pwysau hyn, fy mod yn gweld gwelliant mewn rhai agweddau ar lesiant, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Ond rwyf hefyd yn pryderu bod arwyddion o bwysau mewn rhai meysydd allweddol.

Gyda thoriadau pellach ar y gorwel, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru wedi pennu cyfeiriad cliriach a'i bod yn rhoi pwyslais penodol ar gynnwys y cyhoedd yn fwy yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau. Ond, mae llawer o rwystrau i'w goresgyn o hyd cyn y gellir cyflawni'r nod o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy. 

Er gwaethaf y pwysau hyn, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi rhai meysydd i'w gwella sy'n ymwneud â lles a pherfformiad gwasanaethau. Mae'r adroddiad yn nodi bod y GIG wedi gwella yn erbyn ei fesurau iechyd cyhoeddus allweddol a bod ansawdd gwasanaethau a chyfraddau goroesi canser yn gwella. Mae canlyniadau o ran cyrhaeddiad addysgol wedi gwella, ond hynny o sylfaen isel mewn rhai meysydd. Ac mae rhai mesurau lles y boblogaeth wedi gwella. Fodd bynnag, mae rhai meysydd sy'n peri pryder. Yng nghyd-destun galw a gweithgarwch cynyddol mewn rhai meysydd, yn enwedig gofal canser, mae perfformiad yn erbyn mesurau amseroedd aros y GIG - am ofal dewisol, gofal brys a gofal canser - wedi gwaethygu. Ac yn fwy cyffredinol, mae lefelau tlodi yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru ac mae lefel allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi bod yn cynyddu.  

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi bod rheolaeth ariannol wedi gwella ar y cyfan ym mhob un o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ond ei bod yn parhau i ganolbwyntio gormod ar bwysau byrdymor. Mae arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn nodi eu bod wedi gwneud arbedion, yn bennaf drwy wella effeithlonrwydd a thrwy ostwng lefelau gwasanaeth rywfaint. Gan edrych i'r dyfodol, maent yn disgwyl i'r cydbwysedd hwnnw newid, gyda mwy o arbedion yn deillio o ostwng lefelau gwasanaeth. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi nad yw dull gwasanaethau cyhoeddus o fynd ati i feithrin dealltwriaeth o effeithiau gostwng lefelau gwasanaethau a'u rheoli wedi bod yn ddigon cadarn hyd yma. 

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi bod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a gweledigaeth wedi'i diweddaru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn nodi cyfeiriad cliriach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Yr her bellach i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yw rhoi'r syniadau hynny ar waith a mynd i'r afael â'r materion sydd wedi rhwystro newid yn y gorffennol. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at rai meysydd allweddol sy'n cynnig cyfle a her, sef: pwerau a deddfwriaeth codi trethi newydd; newid technolegol; newid demograffig; ac ailgyflunio llywodraeth leol. Er enghraifft, os caiff ei chymhwyso'n dda, dylai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ymgorffori egwyddorion pwysig ar gyfer gwaith cynllunio hirdymor, atal, cydweithredu, integreiddio ac ymgysylltu yn fframwaith llywodraeth gwasanaethau cyhoeddus.