Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd

28 Mai 2014 - 4:44yp

Mae trefniadau craffu cadarn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod sail gadarn i benderfyniadau cynghorau yn y cyfnod anodd sydd ohoni, dywed yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro'r rôl a chwaraeir gan bwyllgorau craffu o ran hyrwyddo gwelliannau a herio penderfyniadau.

Yn ei adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi, tra bod cynghorau yn mynd ati i wella trefniadau craffu, nid yw'r canlyniadau bob amser yn glir, er gwaethaf yr amser a'r adnoddau sylweddol a fuddsoddir yn y broses graffu.

Er i'r adroddiad ganfod bod cynghorau yn awyddus i ddysgu a gwella eu dulliau gweithredu, mae hefyd yn nodi eu bod yn ei chael hi'n anodd dangos effaith y gwaith craffu. Gall hyn, ynghyd â rhywfaint o ddiffyg eglurder ynghylch y rôl y mae gwaith craffu yn ei chwarae o ran dwyn y weithrediaeth i gyfrif, arwain rhai pobl i gwestiynu pwysigrwydd a gwerth y gwaith hwnnw. Fodd bynnag, ni ddylid diystyru pwysigrwydd craffu effeithiol, yn enwedig pan fo angen cymryd penderfyniadau anodd.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Mae'r astudiaeth hon yn dangos, tra bod pocedi o waith craffu da, bod diffyg cysondeb. Gyda gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu her ariannol fawr, ni fu cyfnod pwysicach i gynghorau ddatblygu trefniadau craffu effeithiol a chadarn erioed. Mae angen i benderfyniadau fod yn gyson, yn dryloyw ac yn drylwyr ac mae mwy o gydnabyddiaeth ynghylch gwerth gwaith craffu yn hanfodol er mwyn i gynghorau weld y manteision gwirioneddol sy'n gysylltiedig â sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gyda’r nod o wella cydnabyddiaeth, effeithiolrwydd ac effaith craffu, gan gynnwys:

  • cynllunio gweithgarwch craffu'n well;
  • cysoni rhaglenni craffu â threfniadau gwella eraill cynghorau a gwaith cyrff adolygu allanol;
  • gwella ansawdd ac ystod y wybodaeth a dderbynnir gan dimau craffu;
  • egluro cyfraniad aelodau gweithredol ac uwch swyddogion at waith craffu; a
  • mynd ati i werthuso'r effaith y mae gwaith craffu yn ei gael yn gywir.

Cymerodd pob un o'r 22 o gynghorau yng Nghymru ran yn yr astudiaeth a oedd yn cynnwys hunanwerthusiadau, ac yna adolygiadau cymheiriaid gyda chynghorau partner yn arsylwi ac yn rhannu sylwadau ynghylch pwyllgorau craffu ei gilydd. Yn dilyn y gynhadledd Goleuni ar Graffu llwyddiannus a gynhaliwyd ym mis Tachwedd y llynedd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wythnos nesaf hefyd yn cyhoeddi casgliad o adnoddau o'r gynhadledd gyda'r nod o helpu Cynghorau yng Nghymru i wella eu trefniadau craffu ymhellach. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn awyddus i barhau â'r drafodaeth ynghylch yr adnoddau a'r adroddiad hwn ac mae'n annog cynghorau i gymryd rhan drwy Twitter a'r hashnod #scrutinywales.