Cynghorau: ‘Angen Cael Gafael Tymor Hwy Ar Yr Heriau Ariannol Sy'n Eu Hwynebu!’

27 Ion 2014 - 7:23yp

Archwilydd Cyffredinol Cymru yn galw am well systemau cynllunio a gwerthuso a llai o ffocws byrdymor, wrth i'r ‘craciau ddechrau ymddangos’

Mae Cynghorau yng Nghymru wedi llwyddo i ateb yr heriau ariannol hyd yma - er gwaethaf y pwysau sylweddol - ond mae'r craciau yn dechrau ymddangos. Yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd awdurdodau lleol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar roi trefniadau cadarn a phriodol ar waith er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd, ond nad oes gan lawer ohonynt y fath drefniadau ar hyn o bryd.

Mae'r adroddiad Ymdrin â'r Heriau Ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn rhoi trosolwg o'r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i'r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. Daw i'r casgliad nad oes gan lawer gynlluniau digon clir a realistig ar waith sydd eu hangen i helpu i sicrhau arbedion effeithlonrwydd; nid yw cynghorau yn seilio eu cynlluniau strategol ar wybodaeth ariannol gadarn a phriodol fel mater o drefn; ac nad yw pob cyngor yn monitro nac yn gwerthuso'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni eu cynlluniau strategol yn effeithiol.

Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael setliad mwy hael na Lloegr yn ddiweddar, ond mae bellach yn wynebu gostyngiadau sylweddol yn ei chyllid ynghyd â phwysau sy'n deillio o boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio a galw cynyddol mewn meysydd megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwastraff.

Golyga hyn oll y bydd awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau yn y dyfodol os na fydd ganddynt gynlluniau cadarn, tymor hwy, ar waith sy'n gysylltiedig â chynlluniau ariannol tymor canolig. Mae gormod o gynghorau yn methu â chymryd y camau angenrheidiol ac mae amser yn mynd yn brin. Rwyf yn eu hannog i ddilyn yr argymhellion, a'r cyngor a'r adnoddau ymarferol, a geir yn fy adroddiad

Er bod y rhan fwyaf o gynghorau yn glir ynghylch faint o arbedion effeithlonrwydd y mae angen iddynt eu sicrhau, dywed yr adroddiad fod llawer yn llai clir ynghylch sut y byddant yn ymdopi â llai o adnoddau ac nad ydynt yn datblygu dulliau cynaliadwy o ariannu eu blaenoriaethau.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw llawer o gynghorau yn ymgysylltu'n effeithiol ag eraill ac nad ydynt yn asesu effaith bosibl arbedion arfaethedig neu newidiadau arfaethedig i wasanaethau mewn ffordd gadarn. Ychwanega nad yw cynlluniau strategol bob amser yn cael eu hategu'n effeithiol gan gynlluniau adrannol na chynlluniau gwasanaeth. At hynny, nid yw cynghorau yn ystyried, fel mater o drefn, a allai sefydliadau eraill, neu drefniadau partneriaeth, ddarparu gweithgareddau neu wasanaethau yn fwy effeithiol.

Ond ceir rhai enghreifftiau o arfer da ymysg cynghorau ac mae'r adroddiad yn nodi nifer o astudiaethau achos lle mae awdurdodau lleol yn gwneud pethau yn effeithiol ac yn wahanol. Mae hefyd yn darparu Atodiad manwl iawn sy'n cynnwys canllawiau a rhestrau gwirio i helpu swyddogion cynghorau ac aelodau etholedig.

At ei gilydd, mae'r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ar gyfer gwella, gan gynnwys galw ar i gynghorau wneud y canlynol:

  • Datblygu strategaethau a chynlluniau clir, gan ddangos yr hyn y maent am ei gyflawni a sut y maent yn bwriadu gwneud hynny.
  • Cysylltu cynlluniau a strategaethau yn agos â chynlluniau ariannol tymor hwy.
  • Ystyried mwy o gyfleoedd i gydweithio, a gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, er mwyn lleihau costau a gwella canlyniadau i ddinasyddion.
  • Atgyfnerthu trefniadau ar gyfer gwerthuso'r effaith y mae penderfyniadau ariannol - neu safonau gwasanaeth - yn ei chael ar ddinasyddion.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (y Comisiwn) ei adroddiad ar ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Casgliad cyffredinol y Comisiwn yw’r angen brys am newidiadau sylfaenol i strwythurau, rolau a rhaglenni ar draws sector cyhoeddus Cymru. Ond mae hefyd yn amlygu’r angen i gryfhau’r trefniadau fydd yn hanfodol er mwyn hwyluso llwyddiant. Mae’n hadroddiad ni’n archwilio i rai o’r hwyluswyr llwyddiant hynny mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru. Ond mae’r themâu rydyn ni’n eu harchwilio a’r argymhellion rydyn ni’n eu gwneud yn debygol o fod yr un mor ddilys i holl wasanaethau cyhoeddus.