Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol

17 Ion 2013 - 12:00yb

Ond er mwyn i goedwigaeth yng Nghymru barhau i wella mae heriau o hyd i'w olynydd, dywed yr Archwilydd Cyffredinol

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Canfu adroddiad heddiw fod Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddarparu cyfeiriad corfforaethol cliriach. Dengys y canfyddiadau fod blaenoriaethau strategol clir y Comisiwn wedi'u hategu'n gadarn gan ddiwylliant corfforaethol cryfach lle ymddengys fod staff yn unedig a hynny ar sail cyfeiriad corfforaethol a ddeellir yn glir a'u bod yn deall eu rôl eu hunain wrth gyflawni amcanion y Comisiwn yn well.

Datganiadau i'r wasg

Ond er mwyn i goedwigaeth yng Nghymru barhau i wella mae heriau o hyd i'w olynydd, dywed yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Canfu adroddiad heddiw fod Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddarparu cyfeiriad corfforaethol cliriach. Dengys y canfyddiadau fod blaenoriaethau strategol clir y Comisiwn wedi'u hategu'n gadarn gan ddiwylliant corfforaethol cryfach lle ymddengys fod staff yn unedig a hynny ar sail cyfeiriad corfforaethol a ddeellir yn glir a'u bod yn deall eu rôl eu hunain wrth gyflawni amcanion y Comisiwn yn well.

Ym mis Ebrill 2013, bydd swyddogaethau Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn trosglwyddo i gorff newydd, sef Adnoddau Naturiol Cymru. Felly gohiriwyd sawl penderfyniad allweddol a disodlwyd rhai cynlluniau hirdymor gan fesurau byrdymor. Er enghraifft, rhoddodd y Comisiwn y gorau i'w fwriad i ddatblygu cynllun gofodol ffurfiol cynhwysfawr er mwyn asesu tasgau â blaenoriaeth gan benderfynu eu hadolygu ar sail achosion unigol yn lle hynny. Mae hyn hefyd wedi effeithio ar allu'r Comisiwn i ragweld yr adnoddau ariannol a'r adnoddau staff y bydd eu hangen i gyflawni ei amcanion.

Erys rhai agweddau ar reoli'r broses o gynhyrchu a gwerthu pren yn wan. Nid yw'r Comisiwn wedi datblygu ei gydnerthedd mewn perthynas â'r risg y bydd incwm o bren yn gostwng, ac mae'r cyllid a gafodd gan yr UE wedi lleihau yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Yn 2007-08, cynhyrchodd y Comisiwn £14.6 miliwn o incwm o ffynonellau eraill, ond erbyn 2010-11, roedd hyn wedi lleihau i £5.8 miliwn. Mae'r methiant hwn i arallgyfeirio incwm wedi golygu bod y Comisiwn mewn sefyllfa fregus iawn o ran gostyngiadau mewn prisiau pren.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Adnoddau Naturiol Cymru eu rhoi ar waith, gan gynnwys:

  • Cysylltu blaenoriaethau corfforaethol â gwaith cynllunio lleol, gwaith dyrannu adnoddau a gwaith cynllunio'r gweithlu lleol;
  • Atgyfnerthu prosesau busnes craidd megis caffael a rheoli risg ymhellach;
  • Rheoli ei adnoddau'n fwy effeithiol gan gynnwys cynyddu ei incwm o ffynonellau nad ydynt yn bren a gwella gweithdrefnau cynhyrchu pren a rhagweld; a
  • Datblygu diwylliant o welliant parhaus drwy wella'r hyn a ddysgir o waith adolygu, craffu a herio.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gwneud cynnydd amlwg ers i ni gyflwyno ein hadroddiad cyntaf yn 2008 ond erys heriau sylweddol ar gyfer ei olynydd, Adnoddau Naturiol Cymru. Mae angen i'r sefydliad newydd sicrhau, wrth ddatblygu ei brosesau busnes craidd a'i ffyrdd o weithio, ei fod yn adeiladu ar y cryfderau a welwyd gennym yn rhai o brosesau'r Comisiwn, a'i fod yn ymdrin â'r gwendidau a welwyd gennym mewn meysydd eraill. O ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, bydd angen i Adnoddau Naturiol Cymru ddatblygu ei ffynonellau incwm fel y gall wrthsefyll yn well unrhyw ostyngiadau mewn prisiau pren.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a yw Comisiwn Coedwigaeth Cymru, lle y bo'n briodol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi gweithredu argymhellion archwiliadau blaenorol yn effeithiol er mwyn sicrhau'r buddiannau hirdymor mwyaf posibl o ran coedwigaeth.
  • Er mwyn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ym maes coedwigaeth, mae'r Comisiwn yn gwneud y canlynol: rheoli ystad goetir Llywodraeth Cymru (tua 38 y cant o dir coedwigaeth Cymru); rheoleiddio coedwigaeth yng Nghymru (gan gynnwys trwyddedu gweithgareddau torri ac ailblannu coed); a helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei chynllun grant er mwyn annog y broses o greu coetiroedd a rheoli coetiroedd mewn ffyrdd mwy cynaliadwy yn y sector preifat.
  • Yn 2010-2011, cynhyrchodd y Comisiwn £14.13 miliwn o werthu pren. Cafodd y rhan fwyaf o'i gostau o £50 miliwn a oedd yn weddill gan Lywodraeth Cymru, gyda rhywfaint o arian yn dod o gynlluniau grant Ewropeaidd.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo mewn llywodraeth leol yw archwilwyr allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £14 biliwn a ddyfernir i Gymru'n flynyddol gan Senedd San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r arian hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (bron £4 biliwn).
  • Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.