Angen mwy o bwyslais ar atal gwastraff

21 Maw 2019 - 12:00yb

Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ganolbwyntio ar gynyddu ailgylchu, ond dylai atal gwastraff ddod yn gyntaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio mwy o'i sylw ac adnoddau ar ailgylchu yn hytrach nag ar atal gwastraff yn y lle cyntaf, a chynnydd cymysg a welwyd tuag at dargedau atal gwastraff. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (21 Mawrth 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei dull gweithredu a dysgu o arferion y tu allan i Gymru.

Atal gwastraff yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau ôl-troed ecolegol gwastraff. Er bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar droed ar gyfer atal gwastraff, canfu adroddiad heddiw fod ganddo broffil is nag ailgylchu yn gyffredinol, serch tystiolaeth o effeithiau cadarnhaol o rai mentrau pwysig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol i gynghorau ar gyfer eu gwasanaethau rheoli gwastraff trefol, ond mae'r rhan fwyaf o hwn wedi'i wario ar gefnogi ailgylchu, gydag ychydig iawn ohono wedi ei wario ar atal gwastraff. Yn 2016-17 er enghraifft, gwariodd cynghorau o leiaf £60 miliwn o'r £64.3 miliwn a ddyrannwyd iddynt yn y Grant Refeniw Sengl ar weithgareddau a oedd yn ymwneud yn bennaf â chynyddu ailgylchu. Mae cynghorau wedi'u bygwth â chosbau ariannol am fethu â chyflawni'r targedau ailgylchu.

Cymru yw un o'r gwledydd prin yn y byd sydd wedi gosod targedau atal gwastraff, ac mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru yn cynnwys uchelgais i gael gwared â'r holl wastraff gweddilliol yn gyfan gwbl erbyn 2050. Fodd bynnag, noda'r adroddiad bod y data sydd ar gael i fesur perfformiad yn amrywio o ran ansawdd ac yn nodi cynnydd cymysg. Ar y cyfan, mae swm y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu mewn cartrefi wedi lleihau yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ers 2007, ond gwelwyd ychydig o amrywiad yn y blynyddoedd diwethaf. Dangosodd yr arolygon diwethaf yn 2012 nad oedd unrhyw gynnydd wedi ei wneud i leihau maint y gwastraff masnachol a diwydiannol, ac roedd y dirywiad economaidd yn chwarae rhan arwyddocaol yn y gostyngiad mawr mewn gwastraff adeiladu a dymchwel.

Nid oes llawer o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar faint o wastraff a gynhyrchir yn bethau y gall Llywodraeth Cymru eu rheoli'n uniongyrchol. Serch hyn, gall Llywodraeth Cymru hefyd roi mewnbwn i ddatblygiadau ar lefel y DU, fel yn yr ymgynghoriadau diweddar ar reoliadau gwastraff deunydd pacio ac opsiynau ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion yfed.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton:

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud a gwneud a byw yn ôl egwyddorion ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei hun pan fydd yn adolygu ei strategaeth wastraff yn ddiweddarach y flwyddyn hon, gan sicrhau nad yw ei phwyslais ar ailgylchu yn dod ar draul atal gwastraff. Mae Llywodraeth Cymru wedi ategu rhai mentrau pwysig ond gall hefyd ddysgu o ddulliau gweithredu mannau eraill, gan gynnwys cyfleoedd i wneud mwy o ddefnydd o ddeddfwriaeth a chymelliannau ariannol er mwyn helpu i wireddu ei huchelgeisiau o ran atal gwastraff. Gall Cymru ddangos rhywfaint o gynnydd da ar wastraff cartrefi, ond nid oes ganddi'r ffigurau cyfredol i farnu'r cynnydd ar wahanol fathau o wastraff."

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn ystyried lefel y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i atal gwastraff a'r cynnydd tuag at dargedau atal gwastraff. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygiadau ers cyhoeddi'r Rhaglen Atal Gwastraff ym mis Rhagfyr 2013, ond yn ystyried data blaenorol pan fydd hwn yn dangos tueddiadau ehangach. Nid yw'r adroddiad yn ceisio gwerthuso gwerth am arian y gweithgareddau atal gwastraff penodol sy'n ffurfio'r Rhaglen Atal Gwastraff na gwerth y rhai hynny a nodir yng nghynlluniau sector Llywodraeth Cymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer canran flynyddol o ostyngiad mewn gwastraff a fydd yn cael ei chyflawni hyd at 2050 – heb ystyried tueddiadau poblogaeth nac economaidd – ac wedi eu gosod yn erbyn llinellau sylfaen 2006-07: Gwastraff cartrefi – 1.2% o ostyngiad y flwyddyn; Gwastraff masnachol – 1.2% o ostyngiad y flwyddyn; Gwastraff masnachol – 1.4% o ostyngiad y flwyddyn; Gwastraff adeiladu a dymchwel – 1.4% o ostyngiad y flwyddyn.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi 'economi gylchol', sy'n seiliedig ar yr egwyddor y gallai effeithlonrwydd gwell o ran adnoddau gyfrannu at fuddion ariannol mawr a buddion eraill. Cred Llywodraeth Cymru fod yr economi gylchol yn alinio â'r nodau llesiant a nodwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac â'i strategaeth, Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae atal gwastraff yn rhan bwysig o ddull Llywodraeth Cymru o fod yn effeithlon o ran adnoddau. Mae rhoi'r pwyslais ar atal hefyd yn un o'r pum ffordd o weithio sy'n tanseilio'r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y'i nodwyd yn y Ddeddf.
  • Mae'r adroddiad hwn yn ffurfio un rhan o set o dri darn perthnasol o waith ar reoli gwastraff yng Nghymru. Mae'r ddau ddarn arall o waith wedi ystyried materion sy'n ymwneud ag ailgylchu trefol a chaffaeliad capasiti trin gwastraff gweddilliol a gwastraff bwyd.
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yw'r archwilydd allanol statudol annibynnol ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol am archwilio'r mwyafrif o'r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys y £15 biliwn o gyllid y pleidleisir arno bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r cyllid hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
  • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Caiff ei benodi gan y Frenhines, ac ni chaiff ei waith archwilio ei lywio na'i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na'r llywodraeth.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod. Mae'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro'r Archwilydd Cyffredinol ac yn ei gynghori ar sut i gyflawni ei ddyletswyddau.