
Ar Hydref 19, cynhaliodd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid yr ail Gynhadledd Hyfforddai Cyllid - Dyfodol Diamod 2017
Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.
Roedd digwyddiad eleni yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhadledd y llynedd drwy drafod y newidiadau a’r heriau sy’n debygol o fwrw gweithwyr cyllid yn ystod eu gyrfa a chafodd ei redeg gan weithwyr blaengar yn y maes.
Cyflwyniadau o'r gynhadledd
- Y Swyddogaeth Gyllid Fodern (Saesneg yn unig) [PDF 2.2MB Agorir mewn ffenest newydd] - Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru & Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Gwerth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Digwyddiadau Mawr - Cael y Cydbwysedd Cywir (Saesneg yn unig) [PDF 2.9MB Agorir mewn ffenest newydd] - Simon Comley, Rheolwr Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Chris Sims QAM, Rheolwr Ardal (Cydnerthedd), Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Chris Barton, Trysorydd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Seiberddiogelwch a phwysigrwydd parhad busnes yn y sector cyhoeddus (Saesneg yn unig) [PDF 1.8MB Agorir mewn ffenest newydd] - Nick Lewis, Rheolwr Diogelu a Datblygu TG, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Cael effaith (Saesneg yn unig) [PDF 3MB Agorir mewn ffenest newydd] - Mike Usher, Arweinydd Sector, Swyddfa Archwilio Cymru.
- Deall eich Personoliaeth eich hun ac eraill (Saesneg yn unig) [PDF 900KB Agorir mewn ffenest newydd] - Sandy Keating, Cyfarwyddwr, ACM.
- Heriau Arweinyddiaeth y Sector Cyhoeddus (Saesneg yn unig) [PDF 560KB Agorir mewn ffenest newydd] - Clair Fisher, Partner, Coleg y Gwasanaeth Sifil.
Storify
Gweler trosolwg o'r dydd ar Twitter trwy ein Storify [Agorir mewn ffenest newydd].
Lluniau
Gwelwch a rhannwch lluniau’r dydd ar ein tudalen Facebook [agor mewn ffenest newydd]
Mae’r grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff a ariennir yn gyhoeddus ledled Cymru sy'n cwmpasu’r sectorau canlynol:
- GIG Cymru
- llywodraeth leol
- gan gynnwys parciau cenedlaethol
- yr heddlu
- tân ac achub
- llywodraeth Cymru, CNCau a chyrff eraill llywodraeth ganolog ddatganoledig
- cyrff Llywodraeth ganolog nad ydynt wedi'u datganoli sy'n gweithredu yng Nghymru
- Addysg uwch ac Addysg bellach, a
- Swyddfa Archwilio Cymru.