Ailgylchu ar gynnydd yng Nghymru ac mae’r dulliau yn fwy cyson

14 Tach 2018 - 1:42yp

Gwell cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau wrth wraidd gwelliannau, ond mae costau a pherfformiad yn amrywio ledled Cymru

Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru yn cydweithio mwy, sy’n helpu i wneud dulliau ailgylchu yng Nghymru yn fwy cyson ac mae’n annog mwy o bobl i gymryd rhan. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu ei bod i raddau helaeth wedi goresgyn etifeddiaeth o densiynau a drwgdybiaeth ynghylch yr ymagwedd a argymhellir ganddi tuag at ailgylchu yn y cartref.

Canfu’r adroddiad fod targedau statudol wedi eu seilio ar bwysau wedi arwain at raddfa ailgylchu well o lawer dros amser - i gymaint â 63.8% ledled Cymru yn 2016-17. Ond, gostyngodd y raddfa ailgylchu i 62.7% yn 2017-18 yn rhannol oherwydd gwell ansawdd o ran adrodd. Dengys y ffigurau ailgylchu diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018, bod 20 o’r 22 o gynghorau yng Nghymru wedi cyflawni neu ragori ar y targed ailgylchu statudol o 58% ar gyfer 2017-18.

Roedd y graddfeydd ailgylchu a adroddwyd yn 2017-18 yn amrywio o 56.0% ym Mlaenau Gwent i 72.25 ar Ynys Môn. Serch hynny, gall cymharu perfformiad ailgylchu cynghorau yn seiliedig ar yr effaith ar leihau carbon ddangos canlyniadau gwahanol. Mae targedau’n seiliedig ar bwysau wedi annog cynghorau i ailgylchu gwastraff sydd ag effaith carbon gymharol isel fesul tunnell a gasglwyd.

Nodir yr ymagwedd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru tuag at ailgylchu trefol yn ei ‘Glasbrint Casgliadau’. Cynyddodd nifer y cynghorau a oedd yn cydymffurfio â’r Glasbrint hwn o dri yn 2011-12 i 11 yn 2016-17. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fwy o gynghorau fabwysiadu’r ymagwedd hon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond mae rhai cynghorau yn parhau’n amharod i newid eu dull o gasglu deunydd ailgylchu wrth ymyl y ffordd.

Mae meincnodi wedi canfod bod cost rhai gwasanaethau rheoli gwastraff yn dangos amrywiaeth syfrdanol ledled Cymru. Serch hynny, ceir amrywiaeth o ffactorau sy’n dylanwadu ar y costau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn credu, os caiff ei weithredu yn y modd gorau posibl, mai ei Glasbrint Casgliadau sy’n cynnig y modd cyffredinol mwyaf cost-effeithiol o gasglu gwastraff o gartrefi.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda chynghorau i ddeall yn well yr amrywiaeth mewn gwariant ar wasanaethau rheoli gwastraff nad ydynt yn y bôn yn wahanol i’w gilydd;
  • Ailosod neu ategu targedau ailgylchu presennol er mwyn rhoi pwyslais ar yr adnoddau gwastraff sydd â’r effaith fwyaf ar leihau carbon ac/neu sy’n brin;
  • Dangos na ellir gwireddu buddion ehangach ailgylchu trefol yn haws drwy ffyrdd eraill.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod y darlun o welliant ar gyfer ailgylchu trefol ledled Cymru, diolch i well cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau. Ond mae angen gwell ddealltwriaeth o’r gwahaniaethau yng nghostau gwasanaeth ledled Cymru, yn enwedig o gofio’r pwysau ariannol ehangach sydd ar gynghorau. Ac mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ystyried pa un a yw’r modd y mesurir perfformiad ailgylchu yn dweud y stori gyfan, gan gynnwys yng nghyd-destun nodau lleihau carbon ehangach.