Mae’r adroddiad hwn yn ystyried y cynnydd a wnaed gan gynghorau lleol i fynd i’r afael â’r gwendidau hyn a nodi meysydd y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn canolbwyntio arnynt wrth archwilio cyfrifon 2015-16.
Ers 2011-12, mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi gwneud cynnydd i wella eu trefniadau rheoli ariannol a llywodraethu. Dangosir hyn gan welliannau o ran amseroldeb y broses o lunio’r cyfrifon a’r ffaith bod nife y barnau archwilio amodol yn parhau i leihau. Fodd bynnag, mae nifer y
barnau archwilio amodol a methiannau o ran llywodraethu ariannol yn dal i fod yn rhy uchel.