Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn gyntaf ar ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r datganoli cyllidol cyffredinol gan gynnwys gwaith ei swyddogaethau yn Nhrysorlys Cymru; ac yn ail ar waith penodol hyd yma ar gyfer sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru
Daethom i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn paratoi’n dda i ymgymryd â’i chyfrifoldebau o ran datganoli cyllidol, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru erbyn dyddiad dechrau mis Ebrill 2018, er bod heriau sylweddol o hyd wrth geisio rhoi cynlluniau manwl ar waith a chyflawni prosiectau allweddol.