Gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau arian ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

3 Meh 2010 - 12:00yb

Mae Cymru Gynnes Cyf (Cymru Gynnes) yn adeiladu ar y Model Parthau Cynnes mwyaf Ilwyddiannus a ddatblygwyd yn Stockton on Tees gan National Grid Transco (NGT) ac a gyflwynwyd ar ôl hynny i Redcar a Cleveland a Newcastle upon Tyne. Dechreuodd Cymru Gynnes, o dan arweiniad Rhaglen Cynhesrwydd Fforddiadwy NGT, ei brosiect tair blynedd cyntaf yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot yn 2004, ac yna yn Wrecsam yn 2005.

Mae'r ddau gynllun yn gweithredu fel partneriaethau rhwng y Cynghorau, yr NGT, npower, Warm Zones Ltd a Llywodraeth y Cynulliad. Maent yn ceisio lliniaru tlodi tanwydd drwy:

  • ddefnyddio timau o aseswyr i arolygu cartrefi preifat yn yr ardal a nodi cartrefi sy'n dioddef o dlodi tanwydd;
  • cychwyn targedu gwaith asesu a gosod ar y wardiau a nodwyd fel rhai sy'n profi Iefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol (er bod y ddau gyngor yn disgwyl i dimau asesu fod wedi ymweld â phob ward erbyn diwedd y cyfnod tair blynedd);
  • darparu cymorth ariannol i ystod o waith effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi a aseswyd fel rhai sy'n dioddef o dlodi tanwydd;
  • atgyfeirio cartrefi cymwys i gynlluniau grant perthnasol megis HEES Llywodraeth y Cynulliad;
  • cydgysylltu ac ariannu rhwydwaith o sefydliadau i gynnig cyngor yn ymwneud â dyledion, budd-daliadau ac effeithlonrwydd ynni;
  • rhoi mesurau gosod am ddim i berchnogion a deiliaid dros 60 oed; a
  • gosod ystod o waith effeithlonrwydd ynni ym mhob adeilad sy'n eiddo i'r cyngor (waeth beth yw eu gallu i dalu).

Ymhlith y mesurau sydd ar gael mae inswleiddio waliau ceudod a llofftydd, bylbiau golau ynni isel a siacedi ar gyfer tanciau dŵr poeth. Mae'r dull systematig hwn ar raddfa fawr i nodi cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd a chynnal gwaith effeithlonrwydd ynni perthnasol yn creu blociau o waith i osodwyr ac yn galluogi'r partneriaethau i fanteisio ar effeithlonrwydd graddfa. Bydd y cyfnod asesu yn rhoi gwybodaeth fanwl a chynhwysfawr am gyflwr tai, yn enwedig tai'r sector preifat, yn yr ardal. Caiff cynlluniau eu hariannu'n bennaf gan y Cynghorau, y Partner EES a pherchnogion tai, er y gellid defnyddio ffynonellau eraill megis arian Ewropeaidd. 

Canlyniadau'r cynllun: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Erbyn 31 Hydref 2006:

  • cwblhawyd 34,000 o asesiadau cychwynnol;
  • cynhaliwyd 16,100 o arolygon cartref manwl;
  • mae 15,000 o gartrefi wedi cael inswleiddiad llofft a cheudod y wal am ddim;
  • mae 1,100 o gartrefi wedi cael mesurau am ddisgownt;
  • gosodwyd 500 o systemau gwresogi nwy newydd neu well;
  • mae 250 o gartrefi wedi cael cysylltiadau nwy newydd;
  • mae 100,000 o fylbiau golau ynni isel wedi'u dosbarthu;
  • mae 60,000 o gartrefi wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim; ac 
  • mae 8,500 o bobl wedi gwneud cais am gyngor ar fudd-daliadau am ddim a thalwyd dros £1.25 miliwn mewn taliadau newydd neu daliadau wedi'u dyddio'n ôl.

​CanIyniadau'r cynllun: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hyd at fis Ionawr 2007:

  • amcangyfrifodd y Cyngor fod preswylwyr wedi gwneud yr hyn sy'n gyfwerth â thros £5 miliwn mewn arbedion ynni ers cyflwyno menter Cymru Gynnes;
  • inswleiddio waliau ceudod a Ilofftydd - gosodwyd gwerth £1 miliwn am ddim mewn tua 5,000 o gartrefi, ac amcangyfrifir y cafwyd Ileihad o dros 900 o dunelli mewn allyriadau CO2;
  • amcangyfrifir bod Iefelau tlodi tanwydd yn y Cyngor wedi Ileihau o 19 y cant i 16 y cant.

Yn y ddau achos mae'n debygol y bydd y cynllun yn:

  • Iliniaru tlodi tanwydd drvvy gynyddu Iefelau incwm a/neu Ieihau swm yr ynni sydd ei angen i wresogi'r cartref i lefel gyfforddus; a
  • IIeihau'r defnydd o ynni ac allyriadau CO2 cysylltiedig drwy wella gaIIu'r cartrefi gadw gwres a/neu i gynhyrchu gwres yn fvvy effeithlon.

Fodd bynnag, er mwyn asesu effeithiau'r cynllun ar ddefnydd ynni ac allyriadau CO2 yn effeithiol, mae angen i'r Cyngor gasglu data defnydd ynni cyn ac ar ôl y cynllun gan y cwmnïau cyfleustodau perthnasol. Er ei fod yn bosib i amcangyfrif y cynilion theatrig gan ddefnyddio SAP i fodelu.

Nid yw'r potensial i ymestyn y cynlluniau hyn Iedled Cymru wedi'i archwilio hyd yma.

Enw cyswllt: Bill Jones
Swydd: Prif Reolwr Ynni
Ffôn: 01978 297208
E-bost: biII.jones@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref 
Wrecsam
LL11 1AY
Gwefan: wvvvv.wrexham.gov.uk

Darganfod dogfennau