Mae'r cwestiynau’n canolbwyntio’n bennaf ar y ffyrdd y mae cyrff iechyd yn gofyn i gleifion am adborth.
Rydym wedi paratoi’r cwestiynau gyda’r bwriad o gefnogi aelodau byrddau’r GIG i geisio sicrwydd bod eu sefydliadau’n gwneud digon i ddysgu gan gleifion a’u bod yn defnyddio’r profiadau dysgu hyn i wella eu gwasanaethau.