Fe archwilion ni i ba raddau y mae’r Cyngor yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth hyrwyddo Tyfu Canolbarth Cymru yn genedlaethol fel y cyfrwng i ailfywiogi’r economi leol, denu mewnfuddsoddiad, a hybu cyfleoedd cyflogaeth lleol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy o ran pennu’r ‘cam’ sy’n ymwneud â ‘Tyfu Canolbarth Cymru’ ac mae’n ystyried y pum ffordd o weithio yn y camau gweithredu y mae’n eu cymryd i’w gyflawni.