Mae’r adroddiad hwn yn ystyried p’un a yw CCC, lle y bo’n briodol ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wedi gweithredu argymhellion archwiliadau blaenorol yn effeithiol er mwyn sicrhau’r manteision hirdymor mwyaf posibl o ran coedwigaeth. Er mwyn amlinellu cynnydd CCC mewn modd ystyrlon, rydym wedi grwpio argymhellion fesul thema, megis caffael, rheoli risg a rheoli grantiau.
Deuthum i’r casgliad fod CCC wedi gwneud cynnydd wrth weithredu argymhellion archwiliadau ond, er gwaethaf hyn, wynebir rhai o’r heriau gwreiddiol o hyd ac maent yn llesteirio gwaith cyfl awni.