Craffu

Mae rôl craffu yn gynyddol bwysig yn y cyfnod hwn pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i’r her o gyfyngiadau ariannol, wrth geisio’n gyson i wella mewn ymateb i ddisgwyliadau’r cyhoedd, sy’n codi. Mae datblygu trefniadau craffu effeithiol ar y cyd ar gyfer cydweithrediadau newydd hefyd yn flaenoriaeth fwyfwy pwysig.

Mae adnoddau a gynhyrchwyd cyn, yn ystod ac mewn ymateb i Gynhadledd 'Goleuni ar Graffu - Gwneud y mwyaf o’ch buddsoddiad’ ym mis Tachwedd 2013 wedi’u casglu at ei gilydd yn y ddogfen hon.

Mae’r adnoddau, sy’n cynnwys cyflwyniadau, areithiau, clipiau fideo, blogiau, offer a negeseuon trydar cynrychiolwyr, yn adlewyrchu’r pwysigrwydd sy’n cael ei roi ar rôl craffu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod yr amseroedd heriol yma.