Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

1 Medi 2010 - 10:37yb

Mae’r cyfarwyddyd hwn wedi’i gynhyrchu ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn crynhoi’r allbynnau sy’n ymwneud yn benodol â Chymru o ran ein hadroddiad diweddar ledled y DU ar werth am arian o fewn y gwasanaeth heddlu – a gyflwynwyd ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, y comisiwn Archwilio ac Arolygwyr Ei mawrhydi (HMIC).

17 Awst 2010 - 10:37yb

Ym mis Gorffennaf 2009, cysylltodd aelodau o'r gymuned leol a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol â ni ar sail gohebiaeth debyg i ohebiaeth a anfonwyd at y pwyllgor. I grynhoi, y prif bryderon oedd bod yna fethiannau difrifol mewn cysylltiad â'r grant a ddyfarnwyd i Calon megis: dyfarnu grant a lywiwyd ar gyfer grwpiau cymunedol i gwmni preifat heb ymgynghoriad cymunedol cyn dyfarnu’r grant; bod llawer o'r wybodaeth a ddarparwyd i ategu'r cais am arian yn camarwain yn fwriadol, yn camliwio ac yn anghywir; nad oedd y broses grant yn dryloyw. Mewn ymateb i'r pryderon hyn rydym wedi ystyried a oedd yr arian cyhoeddus a ddyfarnwyd i Calon gan y Comisiwn yn briodol, yn ddiduedd ac yn unol â'r meini prawf y cytunwyd arnynt.

20 Gorff 2010 - 10:37yb

Mae gwariant yr heddlu wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae troseddu wedi lleihau ac mae hyder cyhoeddus wedi cynyddu ond er bod y lefelau cyllid wedi codi mae’r broses o graffu a herio gwariant wedi bod yn wael. Mae’r adroddiad hwn yn darparu fframwaith ar gyfer newid wrth ddefnyddio dull trawsffurfiol mewn cyswllt â bygythiad, niwed a risg ac yn herio’r heddlu i wneud arbedion sylweddol yn y dyfodol.

14 Gorff 2010 - 10:37yb

Ystyriwyd p’un a yw’r rhaglen buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion wedi’i rheoli yn y ffordd orau posibl. Cwblhawyd gwaith maes yr astudiaeth yn ystod 2008-09.

21 Meh 2010 - 10:21yb

Every year Rydym yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn, sydd yn crynhoi ein gwaith dros y 12 mis diwethaf. Mae'n nodi ein huchafbwyntiau, llwyddiannau a'n ffocws yn y dyfodol.

3 Meh 2010 - 10:37yb

Adolygwyd y trefniadau rheoli tir ac adeiladau gennym mewn 30 o'r cyrff mwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, tân, a'r rhan fwyaf o gyrff llywodraeth ganolog. Yn y GIG cynhaliwyd adolygiad canolog, wedi ei ategu gan waith maes cyfyngedig cyn yr  ad-drefnu diweddar. Llywiwyd trefniadau ar gyfer rheoli tir ac adeiladau'r GIG gan ystod o bolisïau a gweithdrefnau Cymru gyfan sydd wedi darparu'r  sail ar gyfer dull gweithredu mwy cyson yn y sector hwnnw. Hefyd cynhaliwyd 'seminarau dysgu a rennir' ledled Cymru er mwyn cefnogi'r gwaith o nodi a rhannu arfer da. 

 

18 Mai 2010 - 10:37yb

Mae'r adroddiad hwn yn ceisio ateb dau gwestiwn: A gamddefnyddiwyd arian cyhoeddus gan Cymad? Ac, a wnaeth y cyrff cyhoeddus yng Nghymru reoli'n effeithiol yr arian cyhoeddus a dalwyd i Cymad, yn y cyfnod ar ôl 1 Ebrill 2003?

1 Ebr 2010 - 10:21yb

Mae'r Cod Ymarfer hwn yn rhagnodi sut y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r archwilwyr a benodir ganddi/ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau archwilio

17 Maw 2010 - 9:37yb

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ymchwiliad gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth y Cynulliad i honiadau a wnaed yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc (PMCF). Cafodd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol gymorth gan archwilydd ariannol profiadol o Swyddfa Archwilio Cymru drwy gydol ei ymchwiliad.

16 Maw 2010 - 9:37yb

Comisiynwyd Canolfan Ymchwil Menter Ddarbodus Prifysgol Caerdydd (LERC) i gynnal gwerthusiad o feddylfryd systemau yn y sector cyhoeddus ar ran Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o'i rhaglen sy'n canolbwyntio ar effeithlonrwydd a'r amgylchedd ariannol cyfyngedig yn y sector cyhoeddus.

Tudalennau